Erasmus Jones
Erasmus Jones | |
---|---|
Ganwyd | 17 Rhagfyr 1817 ![]() |
Bu farw | 9 Ionawr 1909 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr ![]() |
Llenor, awdur llyfrau hanes, a gweinidog ymneilltuol oedd Erasmus Jones (17 Rhagfyr 1817 – 9 Ionawr 1909). Ysgrifennodd sawl nofel â chefndir Cymreig a llyfrau ar hanes y Cymry yn yr Unol Daleithiau.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Ganed Erasmus Jones ym mhlwyf Llanddeiniolen, Arfon (Gwynedd), yn 1817. Yn 1833, yn ddyn ifanc 16 oed, ymfudodd i'r Unol Daleithiau i geisio gwella ei amgylchiadau, fel sawl Cymro tlawd arall yn y cyfnod yna. Daeth yn weinidog yn yr Eglwys Fethodistaidd Esgobol yn nhalaith Efrog Newydd cyn symud i fyw yn Utica, un o ganolfannau pwysicaf y Cymry alltud yn yr Unol Daleithiau (UDA).
Yn ogystal â sawl nofel yn y Saesneg, nad oes lawer o werth llenyddol iddynt, ysgrifennodd ddau lyfr ar hanes yr ymfudwyr Cymreig yn UDA, yn cynnwys hanes eu rhan yn y Gold Rush. Roedd yn eisteddfodwr brwd a enillodd wobrau yn "Eisteddfod Ffair y Byd" (Chicago, 1893), eisteddfod Pittsburgh, ac eraill.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
Nofelau[golygu | golygu cod]
- The Captive Youths of Judah (1856)
- The Adopted Son of the Princess (1870)
- Llangobaith: a story of north Wales (1886)
Llyfrau hanes[golygu | golygu cod]
- The Welsh in America (1876)
- Gold, Tinsel and Trash (1890)