Eglwys Fethodistaidd Esgobol
Jump to navigation
Jump to search
Yr Eglwys Fethodistaidd Esgobol (Saesneg: Methodist Episcopal Church) oedd yr enwad Fethodus gyntaf i gael ei sefydlu yn yr Unol Daleithiau. Dechreuodd yn swyddogol fel Cynhadledd Nadolig Baltimore (Baltimore Christmas Conference) yn 1784, gyda Francis Asbury a Thomas Coke yn cael eu hapwyntio yn esgobion cyntaf yr eglwys. Trwy gyfres o ymraniadau a chyfuniadau, daeth yr eglwys yn rhan o'r Eglwys Fethodistaidd Unedig (United Methodist Church) bresennol yn 1968.
Ymaelododd rhai o'r Americanwyr Cymreig yn yr eglwys, yn cynnwys Erasmus Jones, a ddaeth yn weinidog ynddi ar ôl ymfudo o ogledd Cymru i'r Unol Daleithiau yn 1833.