Emrys Sant

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sant Emrys

Roedd Emrys Sant (Lladin: Aurelius Ambrosius c. 340 – 4 Ebrill 397) yn gyffeswr, yn ddoethor eglwysig ac yn esgob catholig Milan rhwng 374 a 397. Roedd yn un o'r bobl mwyaf dylanwadol yn yr eglwys drwy Ewrop yn y 4c. Roedd yn raglaw-ynad (praefectus consularis) o arfordir Liguria ac ardal Emilia yn yr hyn a adnabyddir heddiw fel 'yr Eidal'. Yn Milan roedd ei bencadlys, cyn ei ordeinio'n annisgwyl yn esgob yn 374. Gwrthwynebai Ariaeth, neu Ariadaeth, i'r carn; sef gredo fod Iesu Grist yn fab Duw ac a grewyd ganddo. Cyhuddwyd Emrys o erlid Ariaethwyr, Iddewon a phaganiaidd.[1]

Dywed traddodiad iddo hyrwyddo "llafarganu atepganiadol" ble adleisir un ochr y côr gan yr ochr arall, bob yn ail. Honnir hefyd iddo gyfansoddi Veni redemptor gentium, un o emynau'r Adfent.

Fe'i ganwyd yng Ngallia Belgica (yr Almaen heddiw) a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yr adeg honno. Mae'n bosibl mai ei dad oedd Aurelius Ambrosius.[2] Mae Emrys yn nodedig am ei ddylanwad ar Awstin o Hippo ac am esgymuno'r ymherawdwr Theodosius ar ôl cyflafan mawr yn Thessalonica.

Mae'r Eglwys yn dathlu ei wyl ar y 7fed Rhagfyr.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Wilken, Robert (2003), The Spirit of Early Christian Thought, New Haven: Yale University Press, p. 218
  2. Greenslade, Stanley Lawrence (1956), Early Latin theology: selections from Tertullian, Cyprian, Ambrose, and Jerome, Library of Christian classics, 5, Westminster: John Knox Press, p. 175