Emrys Evans

Oddi ar Wicipedia
Emrys Evans
Ganwyd4 Ebrill 1924 Edit this on Wikidata
Y Foel Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 2004 Edit this on Wikidata
Dinas Powys Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Caereinion Edit this on Wikidata
Galwedigaethbanciwr, dyngarwr Edit this on Wikidata

Bancwr a Chymro oedd y Dr Emrys Evans (4 Ebrill 192418 Gorffennaf 2004).[1] Enw llawn, William Emrys Evans.

Yn fab i ffermwr fferm fach yn Sir Drefaldwyn daeth yn bennaeth Banc y Midland yng Nghymru. Bu'n ddylanwad i Gymreigio'r banc hwnnw. Roedd yn gymwynaswr i nifer o elusennau gan gynnwys Barnados, Tenovus ac Arch Noa sef yr elusen dros sefydlu ysbyty plant yng Nghymru. Bu'n gadeirydd bwrdd rheoli Sioe Amaethyddol Cymru ac yn llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol am dair blynedd. Bu hefyd yn drysorydd Undeb yr Annibynwyr.

Bu'n aelod o Gyngor yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd yn 1973.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Mair Thomas yn 1946 a chawsant un ferch. Roedd y ddau yn byw yn Llundain tra oedd yn gweithio ym mhrif swyddfa'r banc cyn symud i Ddinas Powys, Bro Morgannwg yn 1972. Bu farw yn ei gartref ar 18 Gorffennaf 2004. Bu'r angladd yng nghapel Ebeneser, Stryd Siarlys, Caerdydd, 26 Gorffennaf a'i dilyn gan amlosgi yn Amlosgfa'r Ddraenen (Thornhill), Caerdydd.[1]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  EVANS, WILLIAM EMRYS (1924-2004), banciwr a ffilanthropydd.. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd ar 15 Awst 2016.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.