Elizabeth Randles
Elizabeth Randles | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 1801 Wrecsam |
Bu farw | 6 Mai 1829 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pianydd |
Telynores a pianyddes o Gymru oedd Elizabeth Randles (1 Awst 1800 – 6 Mai 1829), adnabyddir hefyd fel "Little Cambrian Prodigy". Yn blentyn rhyfeddol, fe dechreuodd hi chwarae'r piano pan oedd hi dim ond yn 16 mis oed, perfformiodd hi am y tro cyntaf cyn iddi droi'n ddwy oed. Cafodd Elizabeth ei dysgu gan ei thad oedd yn ddall, roedd ef yn organydd yn eglwys ym mhlwyf Treffynnon. Perfformiodd Elizabeth i uchelwyr lleol a arweiniodd at berfformiiad i Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig a'i deulu Brenhinol pan roedd hi'n dair blwydd a hanner. Gobeithiodd Caroline o Brunswick, Tywysoges Cymru, y caiff ei mabwysiadu, ond gwrthododd ei thad adael hyn i ddigwydd. Er hyn, treuliodd ambell ddiwrnod yng nghartref Haf y Dywysoges, a chwaraeodd yn aml gyda Tywysoges Charlotte o Gymru. Aeth Elizabeth ar daith o'r wlad pan yr oedd hi'n blentyn, perfformiwyd gyda John Parry (Bardd Alaw). Ym 1808, dychwelwyd adref a dysgodd i chwarae'r delyn. Aeth ymlaen i dderbyn gwersi gan Friedrich Kalkbrenner, cyn symud i Lerpwl i ddysgu.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ganwyd Elizabeth Randles, adnybyddir hefyd fel Bessy, ar 1 August 1800 yn Wrecsam, north Cymru.[1] Roedd ei thad, Edward Randles, yr organydd yn eglwys ym mhlwyf Treffynnon, wedi colli ei olwg pan oedd yn dair mlwydd oed o ganlyniad i'r frech wen. O bosib, gan ei fod yn ddall, gosodwyd ei rieni ef i gael ei ddysgu sut i chwarae'r telyn dan arweiniad John Parry (Y Telynor Dall) , rhagorodd Edward dan ei arweiniad. Elizabeth oedd yr ieuengaf allan o saith o blant Randles gan gynnwys ei brawd Edward, a ddaeth yn organydd yn eglwys y plwyf.[2]
Pan roedd yn 16 mis oed, roedd Elizabeth yn mwynhau gwasgu'r allweddau ar y piano a ceisio chwarae alaw. Un diwrnod, pan roedd Edward Randles yn sal, fe sylweddolodd fod rhywun yn ceisio chwarae Blue Bells of Scotland ar y piano cyfagos.[3] Gan meddwl mai un o'i blant hyn oedd yn chwarae, gofynnodd iddynt stopio, cafodd syndod pan sylweddolodd mai Elizabeth oedd yn chwarae'r piano. Gan ei bod hi mor ifanc a fach, roedd yn rhaid iddi taro pob allwedd gyda ochr ei llaw. Darganfyddodd bod Elizabeth yn gallu chwarae alaw syml ar gyfer Blue Bells of Scotland yn ogystal ag Charley over the water. Penderfynodd ei thad i ddechrau dysgu ambell alaw syml iddi ac y nodau cerddorol. Cyn iddi allu siarad, roedd ganddi yr allu i gydnabod y gwahanol nodau a chwarae'r allweddu oedd yn perthyn iddynt. Aeth Randles ymlaen i ddysgu Elizabeth yr awel ar gyfer y gan gwerin Cymraeg, Ar hyd y nos. Ceisiodd Elizabeth chwarae'r cordiau hefyd felly dysgodd ei thad y darn cyflawn o gerddoriaeth iddi.
Yn ystod Haf 1802, cafodd Wrecsam ymweliad gan grwp o ddigrifwyr oedd yn teithio'r wlad. Roedd un o'r arweinwyr, a oedd wedi clywed Elizabeth yn chwarae, wedi gorchymyn iddi berfformio gyda nhw. Cyn iddi droi'n ddwy, ymunodd hi a'r grwp o ddigrifwyr yn theatr Wrecsam er mwyn chwarae Ar hyd y nos a The Downfall of Paris. Yno, chwaraeodd hi'r darnau o gerddoriaeth gyda afal a darn o gacen ar naill pen y piano, derbyniodd hi'r ddau wedi iddi orffen gan iddi chwarae'n mor dda. Yn ystod y naw mis nesaf, perfformiodd Elizabeth yn nhai Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig, Boneddiges Dungannona Boneddiges Cunliffe. Awgrymodd Williams-Wynn dylai Elizabeth chwarae yng nghyngerdd a fyddai'n cael ei gynnal yn y Gwanwyn yn Wrecsam, dan arweiniad y delynor John Parry (Bardd Alaw). Cafodd y cyngerdd ei ohirio ar nifer o adegau o ganlyniad i salwch oedd gan mam Elizabeth, er yr oedd hi'n annog iddynt mynd ymlaen gyda'r cyngerdd hebddi. Ar noson y gyngerdd, bu farw mam Elizabeth, wedi iddi glywed fod y cyngerdd wedi bod yn llwyddiant.
Erbyn i Elizabeth troi'n tair a hanner, cafodd ei wahodd i chwarae i Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig, y Frenhines Charlotte ac aelodau arall o''r Deulu Frenhinol.[4] Roedd y berfformiad yn llwyddiant a cyflwynodd y brenin 100 guinea i Elizabeth (gwerth tua £96,000 yn 2014). Creodd hi cymaint o argraff, dymunodd Caroline o Brunswick, Tywysoges Cymru, ei mabwysiadu ond gwrthododd ei thad adael hyn i ddigwydd .[5] Roedd cyhoeddusrwydd y cyngerdd Brenhinol wedi arwain at cyngerdd dilynol i'r cyhoedd, gyda pris tocynnau 1 guinea yr un (tua £960 yn 2014). Cynhaliwyd y gyngerdd yng Ngerddi Cumberland, roedd tua 500 o uchelwyr wedi mynychu. Aeth holl elw y cyngerdd, gan gynnwys yr holl rhoddion gan y bobl mynychwyd, i Elizabeth mewn ffurf gwahanol ymddiriodolaethau.
"Well, and my father is organist at Wrexham."
Treuliodd Elizabeth rai ddyddiau yng ngofal Tywysoges Cymru, yn ei chartref haf, y Pagoda yn Blackheath. Yno, fe treuliodd hi amser yn chwarae gyda'r dywysoges ifanc Tywysoges Charlotte o Gymru.[6] Er mwyn sicrhau fod ganddi ddigon o arian er mwyn gallu ariannu ei hamser mewn addysg, roedd Elizabeth, ei thad a Parry wedi teithio o gwmpas gweddill Y Deyrnas Unedig rhwng 1805 a 1808.[7] Ym mis Mehefin 1808, dychwelwyd i Lundain er mwyn perfformio yn yr Hanover Square Rooms, wedi ei meichio gan Tywysog Cymru a'r In June 1808, she returned to London to perform at the Hanover Square Rooms, sponsored by the Prince of Wales and the Marcwis o Downshire. Arhosodd Parry yn Lundain tra dychwelodd Elizabeth a'i thad adref. Yno fe dysgodd i chwarae'r telyn ac erbyn iddi droi'n 14 roedd yn fedrus gyda'r ddwy offeryn yn ogystal a'r organ. Dychwelwyd i Lundain ym 1818 er mwyn derbyn gwersi telyn wrth Francois-Joseph Dizi a gwersi piano wrth Friedrich Kalkbrenner.
Symudodd Elizabeth i Lerpwl, roedd yn rhoi gwersi telyn, piano a chanu yn reolaidd yn ysgol yn Ellesmere, Swydd Amwythig,[8] roedd yn dychwelyd adref er mwyn trin ei thad tan iddo farw ym 1823. Disgrifiwyd iechyd Elizabeth i fod yn fregus ac bu farw o ddirywiad ar y 6ed o Fai 1829[9] yn Lerpwl.[10] Roedd ei sgil cerddorol ar oedran mor ifanc wedi sicrhau ei fod yn cael ei adnabod fel "Little Cambrian Prodigy".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Dictionary of Musicians (1824). "Select Biography. Miss Randles, the Cambrian Musical Prodigy". In Percy, Reuben; Timbs, John (gol.). The Mirror of Literature, Amusement, and Instruction, Volume 4. J. Limbird. Cyrchwyd 2 Ebrill 2016.
- ↑ Poole, J (1831). Gleanings of the Histories of Holywell, Flint, Saint Asaph, and Rhuddlan. t. 30. Cyrchwyd 1 Ebrill 2016.
- ↑ Brayley, Edward Wedlake; Britton, John (1812). "Denbighshire". The Beauties of England and Wales, Or, Delineations, Topographical, Historical, and Descriptive, of Each County: North Wales. T. Maiden. tt. 601–602. Cyrchwyd 2 Ebrill 2016.
- ↑ Lewis, Samuel (1840). "WRE". A Topographical Dictionary of Wales: Comprising the Several Counties, Cities, Boroughs, Corporate and Market Towns, Parishes, Chapelries, and Townships, with Historical and Statistical Descriptions, Volume 2. S. Lewis. Cyrchwyd 2 Ebrill 2016.
- ↑ "The 2010 Gregynog Festival". University of Wales. 10 June 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-09. Cyrchwyd 1 Ebrill 2016.
- ↑ 6.0 6.1 Rathbone, H. M. (1853). "True Anecdotes of Children". The Juvenile. t. 12. Cyrchwyd 2 Ebrill 2016.
- ↑ Flood, William Henry (2013). "Chapter XVIII: Welsh harpers of the eighteenth century". The story of the harp. Read Books Ltd. ISBN 9781473383470. Cyrchwyd 1 Ebrill 2016.
- ↑ "Fair View School, Ellesmere, Shropshire". Bell's Weekly Messenger. 12 July 1818. t. 8. Cyrchwyd 1 Ebrill 2016.
- ↑ "Deaths". Chester Courant. 19 May 1829. t. 3. Cyrchwyd 3 Ebrill 2016.
- ↑ "Died". Worcester Journal. 28 May 1829. t. 1. Cyrchwyd 3 Ebrill 2016.