Elizabeth Gurley Flynn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Elizabeth Gurley Flynn
Elizabeth Gurley Flynn point (cropped).jpg
Ganwyd 7 Awst 1890 Edit this on Wikidata
Concord Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Medi 1964 Edit this on Wikidata (74 oed)
Moscfa Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaeth hunangofiannydd, newyddiadurwr, undebwr llafur, ymgyrchydd, Ysgrifennwr, Gwleidydd, Swffragét, ffeminist Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Gomiwnyddol UDA, Plaid Gomiwnyddol UDA Edit this on Wikidata
Partner Carlo Tresca Edit this on Wikidata

Ffeminist gweithredol, Americanaidd oedd Elizabeth Gurley Flynn (7 Awst 1890 - 5 Medi 1964) a oedd hefyd yn hunangofiannydd, newyddiadurwr, undebwr llafur, ymgyrchydd, a gwleidydd. Ei llysenw oedd "The Rebel Girl".

Fe'i ganed yn Concord, New Hampshire , Unol Daleithiau America, bu farw yn Moscfa, Rwsia ac fe'i claddwyd ym Mynwent Almaenig Waldheim, Chicago. [1]

Roedd Elizabeth Gurley Flynn yn ffeministaidd a chwaraeodd ran flaenllaw o fewn mudiad Gweithwyr Diwydiannol y Byd (Industrial Workers of the World, neu IWW). Roedd Flynn yn un o aelodau gwreiddiol Undeb Hawliau Sifil America, ac roedd yn amlwg iawn o ran hawliau menywod, rheoli cenhedlu, a phleidlais menywod (neu 'etholfraint'). Ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol UDA yn 1926 ac yn hwyr yn ei bywyd, yn 1961, daeth yn gadeirydd y blaid. Bu farw yn ystod ymweliad â'r Undeb Sofietaidd, lle cafodd angladd gwladwriaethol gyda gorymdeithiau yn y Sgwâr Coch, cynhebrwng a fynychwyd gan dros 25,000 o bobl.[2]

Magwraeth a phriodi[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Elizabeth Gurley Flynn yn 1890 yn Concord, New Hampshire, yn ferch i Annie (Gurley) a Thomas Flynn.[3] Symudodd y teulu i Efrog Newydd yn 1900, lle cafodd ei haddysgu yn yr ysgolion cyhoeddus lleol. Cyflwynodd ei rhieni hi i sosialaeth pan oedd yn ferch ifanc. Pan oedd ond yn bymtheg oed rhoddodd ei haraith gyhoeddus gyntaf, "What Socialism Will Do for Women," yng Nghlwb Sosialaidd Harlem. O ganlyniad, teimlai orfodaeth i siarad yn gyhoeddus am newid cymdeithasol, a gadawodd Ysgol Uwchradd Morris cyn graddio - dywedodd yn ddiweddarach ei bod yn difaru gwneud hynny.[4]

Elizabeth yn ystod streic Cotwm Paterson; 1913.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ym 1907 cyfarfu â threfnydd lleol Minnesota ar gyfer Gweithwyr Diwydiannol y Byd (Industrial Workers of the World), sef J. A. Jones. Roedd yn un-deg-chwe mlynedd yn hŷn na hi, ond dywedodd Flynn yn ei hunangofiant, "Fe syrthiais mewn cariad ag ef ac fe briodon ni ym mis Ionawr 1908." Cawsant ddau fab, John Vincent a fu farw ychydig ddyddiau ar ôl yr enedigaeth, a Fred Flynn, ganwyd 19 Mai 1910 (a fu farw ym 1940).[5][6]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Undeb Rhyddid Sifil America, a Gweithwyr Diwydiannol y Byd am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Mary Harris Jones; Gwyddeles-Americanaidd, arweinydd sosialaidd ac undebwraig a drefnodd nifer o streiciau gan herio a chwyldroi Industrial Workers of the World.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 32154764, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919
  2. "Revolt, They Said". www.andreageyer.info. Cyrchwyd 2017-06-11.
  3. http://biography.yourdictionary.com/elizabeth-gurley-Flynn
  4. Flynn, Elizabeth Gurley (1955). I Speak My Own Piece. New York: Masses & Mainstream, Inc. pp. 52–53.
  5. Flynn, Elizabeth Gurley (1955). I Speak My Own Piece. New York: Masses & Mainstream, Inc. pp. 74–75.
  6. Flynn, Elizabeth Gurley (1955). I Speak My Own Piece. New York: Masses & Mainstream, Inc. pp. 102–03.