Elisabeth Young-Bruehl
| Elisabeth Young-Bruehl | |
|---|---|
| Ganwyd | Elisabeth Bulkley Young 3 Mawrth 1946 Elkton |
| Bu farw | 1 Rhagfyr 2011 o emboledd ysgyfeiniol Toronto |
| Dinasyddiaeth | |
| Addysg | doethuriaeth |
| Alma mater | |
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | academydd, cofiannydd, seicdreiddydd, ysgrifennwr, bardd |
| Cyflogwr | |
| Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim |
Awdures Americanaidd oedd Elisabeth Young-Bruehl (3 Mawrth 1946 - 1 Rhagfyr 2011) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel academydd, cofiannydd, seicdreiddydd, awdur a bardd.
Ganed Elisabeth Young-Bruehl yn Elkton a bu farw yn Toronto, Ontario, Canada o emboledd ysgyfeiniol. Roedd hi'n academydd ac yn seicotherapydd; bu'n byw yn Toronto o 2007 hyd at ei marwolaeth.
Cyhoeddodd ystod eang o lyfrau, yn fwyaf arbennig bywgraffiadau Hannah Arendt ac Anna Freud. Enillodd ei bywgraffiad 1982 o Hannah Arendt Wobr Harcourt tra enillodd The Anatomy of Prejudices wobr Cymdeithas Cyhoeddwyr America am y Llyfr Gorau mewn Seicoleg ym 1996. Roedd hi'n aelod o Gymdeithas Seicdreiddiol Toronto ac yn gyd-sylfaenydd Caversham Productions, cwmni sy'n gwneud deunyddiau addysgol seicdreiddiol.[1][2][3] [4]
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Sarah Lawrence, Prifysgol The New School, Manhattan.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Roedd teulu Young-Bruehl’s ar ochr ei mam yn rhedeg fferm laeth ar dir ger pen Bae Chesapeake, ac yn weithgar yng ngwleidyddiaeth leol Maryland. Roedd tad a thaid ei mam (golygydd papur newydd) wedi bod yn ysgolheigion amatur gyda llyfrgell breifat fawr. Roedd ei mam-gu yn un o ddisgynyddion y Mayflower, yn rhan o deuluoedd Hooker a Bulkley yn Connecticut. O Virginia yr hanai teulu ei thad, ac roedd nifer wedi'u hyfforddi mewn Diwinyddiaeth yng Ngholeg William a Mary yn Williamsburg, Virginia.
Fe’i magwyd yn Maryland a Delaware, lle bu ei thad yn gweithio fel golffiwr proffesiynol.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1986) .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Elisabeth Young-Bruehl".
- ↑ Dyddiad marw: http://www.nytimes.com/2011/12/06/us/elisabeth-young-bruehl-65-dies-probed-roots-of-ideology-and-bias.html. "Elisabeth Young-Bruehl".
- ↑ Caversham Productions Archifwyd 2 Ionawr 2011 yn y Peiriant Wayback adalwyd 17 Ionawr 2011.