Emboledd ysgyfeiniol

Oddi ar Wicipedia
Emboledd ysgyfeiniol
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathpulmonary artery disease, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae emboledd ysgyfeiniol yn digwydd pan fydd llestr gwaed yn eich ysgyfaint wedi cau. Y rhan fwyaf o’r amser, clot gwaed sy’n achosi hyn. Mae’n gyflwr difrifol oherwydd gall achosi gwaed rhag cyrraedd eich ysgyfaint. Gall triniaeth feddygol gyflym achub bywyd.

Symptomau[golygu | golygu cod]

Mae’n galli bod yn anodd i adnabod symptomau emboledd ysgyfeiniol oherwydd gallant amrywio rhwng gwahanol bobl. Y prif symptomau yw poen yn y frest, teimlo’n fyr eich gwynt, tagu a theimlo’n benysgafn neu lewygu hyd yn oed. Mae clot gwaed yn eich coes yn gallu torri’n rhydd a theithio i’ch ysgyfaint, felly mae’n bosib y cewch arwyddion rhybudd eraill fel coes boenus, goch, sydd wedi chwyddo.

Achosion[golygu | golygu cod]

Y rhan fwyaf o’r amser, clot gwaed sy’n teithio i fyny o un o’r gwythiennau dwfn yn eich coesau sy’n achosi emboledd ysgyfeiniol. Thrombosis gwythïen-ddofn (DVT)yw’r enw ar y math hwn o glot.

Diagnosis[golygu | golygu cod]

Gall fod yn anodd i feddygon benderfynu a oes gennych emboledd ysgyfeiniol neu beidio, oherwydd mae’r symptomau yn debyg i lawer o gyflyrau eraill. Mae’n bwysig gwneud diagnosis cywir ohono oherwydd nid yw trin emboledd ysgyfeiniol wastad yn hawdd, a gall triniaethau achosi sgil-effeithiau. Os yw eich meddyg yn amau emboledd ysgyfeiniol, cewch nifer o brofion, fel pelydr-X ar y frest, neu sgan uwchsain i weld a oes clot gwaed yn eich coes, a phrofion i weld pa mor dda mae eich ysgyfaint yn gweithio.

Triniaeth[golygu | golygu cod]

Gwrthgeulydd yw’r brif driniaeth, sef cyffur sy’n achosi newidiadau cemegol yn eich ysgyfaint i’w atal rhag ceulo yn hawdd. Bydd y gwrthgeulydd yn atal y clot rhag mynd yn fwy, tra bydd eich corff yn ei amsugno’n araf. Mae hefyd yn lleihau’r risg o gael clotiau eraill. Y prif gyffuriau a ddefnyddir i drin emboledd ysgyfeiniol yw heparin, ar ffurf chwistrelliad, a warfarin, ar ffurf tabled. Bydd angen i’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael diagnosis o emboledd ysgyfeiniol gael chwistrelliad o heparin am o leiaf pum diwrnod. Dim ond warfarin y bydd angen i chi gymryd wedyn fel arfer.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!