Ekaterina Karavelova
Ekaterina Karavelova | |
---|---|
Ganwyd | Екатерина Великова Пенева–Каравелова 21 Hydref 1860 Ruse |
Bu farw | 1 Ebrill 1947 Sofia |
Dinasyddiaeth | Bwlgaria |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro, ysgrifennwr, cyfieithydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét, nyrs, ffeminist |
Priod | Petko Karavelov |
Plant | Radka Karavelova, Viola Karavelova, Lora Karavelova |
Perthnasau | Joseph Herbst, Peyo Yavorov |
llofnod | |
Ffeminist o Fwlgaria oedd Ekaterina Karavelova (Bwlgareg: Екатерина Каравелова; 21 Hydref 1860 - 1 Ebrill 1947) fu hefyd yn athro, cyfieithydd, swffragét ac ymgyrchydd dros hawliau menywod. Enwyd rhan o Antarctica ar ei hôl: Karavelova Point.[1]
Fe'i ganed yn Rouse (5ed tref fywaf Bwlgaria heddiw) a bu farw yn Sofia, prifddinas y wlad. Bu'n briod i Petko Karavelov.
Hi oedd sylfaenydd y sefydliad merched diwylliannol 'Maika' a bu'n gadeirydd rhwng 1899 a 1929, yn Is-gadeirydd Undeb Menywod Bwlgaria rhwng 1915 a 1925, yn llywydd cangen Bwlgaria o Gynghrair Ryngwladol y Merched dros Heddwch a Rhyddid ym 1925, cyd-sylfaenydd Cymdeithas Bwlgareg-Rwmania yn 1932, ac yn gcyd-sylfaenydd Cymdeithas Awduron Bwlgaria, a'i llywydd, yn 1935. [2]
Fel athrawes, cynhaliodd drafodaethau cynnar ar hawliau merched ac addysg menywod a statws athrawon benywaidd. Yn 1901, roedd yn gyd-sylfaenydd Undeb Menywod Bwlgaria ochr yn ochr â Vela Blagoeva, Kina Konova, Anna Karima a Julia Malinova. Roedd y sefydliad yn sefydliad ymbarél o'r 27 sefydliad menywod lleol a sefydlwyd ym Mwlgaria ers 1878. Fe'i sefydlwyd fel ymateb i gyfyngiadau addysg menywod a mynediad i astudiaethau prifysgol yn y 1890au, gyda'r nod o hyrwyddo datblygiad deallusol menywod a chyfranogi, a threfnu cyngherddau cenedlaethol.
Gwasanaethodd Ekaterina Karavelova fel cynrychiolydd Bwlgareg ar sawl cynhadledd ryngwladol. Yn 1935 gwrthwynebodd rhoi'r gosb eithaf i garcharorion gwleidyddol ym Mwlgaria, ac ym 1938 gwasanaethodd mewn comisiwn a oedd yn gwrthwynebu cau ysgolion Bwlgaria yn Romania.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Karavelova Point. SCAR Composite Antarctic Gazetteer
- ↑ Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 18 Rhagfyr 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 25 Medi 2023.