Neidio i'r cynnwys

Y Dynion Mwyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eglwys y Tylwyth Teg)

Mae'r Dynion Mwyn yn "grefydd ddewiniaeth cyn-Gardneraidd sefydlwyd ar bwys Betws-y-coed yn y 1300au" [1], sy'n haeru eu bod wedi trosglwyddo eu gwybodaeth am eu defodau, eu swynion a'u traddodiadau o genhedlaeth i genhedlaeth. Dywedant fod y traddodiad yn tarddu o Gymru a haerir hefyd eu bod yn ddisgynyddion ysbrydol i feirdd llys Cymru'r Oesoedd Canol.

Yn ôl y Dynion Mwyn, ym Mehefin 1965 cwrddodd Sarah Llewellyn (gwrach honedig o Gymru) â Bill Wheeler ("Rhuddlwm") ar ynys Majorca, a chafodd ef ei ynydu gan deulu'r Dynion Mwyn ym Metws-y-Coed gyda'r enw newydd "hudol" "Rhuddlwm Gawr". Anfonwyd ef i'r Unol Daleithiau i ehangu cylch y Dynion Mwyn yn Houston, Texas[2]. Sefydlodd ef Gylch o'r Dynion Mwyn yn Washington D.C. o'r enw "Coven of the Tylwyth Teg" a ehangwyd yn bur sydyn dan yr enw "The Church of the Tylwyth Teg in America". Roedd yr eglwys newydd hon yn uno aelodau Wica â chrefyddau Paganaidd eraill.

Mae aelodau o'r Dynion Mwyn yn cwrdd yn flynyddol ers 1967, pan gwrddant â'i gilydd yn Maryland. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y maent wedi'u cwrdd â'i gilydd yn Georgia ac Alabama[3]. Ceir dwy gangen y Dynion Mwyn erbyn hyn, sef, "The Celtic Church of Dynion Mwyn, Inc" a "The Church of Y Tylwyth Teg, Inc."

Mae "Cymdeithas Cymry Wiccae, Inc." yn rhan o eglwys y Dynion Mwyn a derbyniodd "Grŵp IRS 501 (C) 3 rhyddhad di-elw" rhag talu trethi ym 1976[4], a derbyniwyd Eglwys y Tylwyth Teg ar 2 Chwefror 1977 fel un o'r eglwysi swyddogol. Mae gan y ddwy lawer o chwaer Cylchau led-led yr Unol Daleithiau, Affrica, Awstralia a Gorllewin Ewrop, ac eglwysi tebyg megis Eglwys y Gwyddon.[5].

Yn ôl eu gwefan, ceir dwy eglwys yng Nghymru, sef "Y Dynion Mwyn" a "Gwyddon Cymry" a leolir yn bennaf ar Ynys Môn[6].

Duwiau

[golygu | golygu cod]

Ymhlith y Duwiau'r maent yn eu haddoli y mae Arianrhod ("y Forwyn Las o'r Tywyllwch Allanol"), sy'n symbol o bopeth a grëwyd ac sydd heb ei greu. Ei hedyn symbolaidd yw ceirch. Y Fam Dduwies yw Dôn, sef y ddaear gyfan: "ei had yw pob had". Ceridwen yw duwies ysbrydoliaeth a hi yw "Ceidwad Crochan Gwybodaeth", ac mae ganddi'r pŵer a'r gallu i wneud hud a lledrith ("magick"). Twr yw Brenin y gwenith ac ysbryd yr haf a'r goleuni a'r gwres a ddaw ohono; gwisga dorch o flodau o amgylch ei wddf. Ceir y duw Arddu, hefyd, sef duw'r Gaeaf. Ond y prif dduw yw Cernunnos, brenin yr holl anifeiliaid; mae'n dduw corniog ac mae e'n symbol o ffrwythlondeb.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Beth yw Dynion Mwyn? Archifwyd 2011-02-07 yn y Peiriant Wayback Cyrchwyd 24 Tachwedd 2009
  2. Hanes y Dynion Mwyn Archifwyd 2011-07-14 yn y Peiriant Wayback Cyrchwyd 23 Tachwedd 2009
  3. The Gathering of the Tribes - Erthygl Witchvox Archifwyd 2010-12-20 yn y Peiriant Wayback Cyrchwyd 23 Tachwedd 2009
  4. Eglwys Swyddogol y Dynion Mwyn Cyrchwyd 23 Tachwedd 2009
  5. Becoming a Witch - Dynion Mwyn Covens and Tradition
  6. Y Dynion Mwyn yng Nghymru Cyrchwyd 23 Tachwedd 2009

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • The Word: The Grail Mysteries of Welsh Witchcraft - Part 3 of the Quest Trilogy, gan Rhuddlwm Gawr, Taliesin enion Vawr, Sarah Llewellyn, a Merridden Gawr [1][dolen farw].
  • Meditation of the Celtic Druids. Welsh Witchcraft, gan Rhuddlwm Gawr, Taliesin enion Vawr, a Merridden Gawr.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]