Eglwys Dewi Sant, Caerdydd
![]() | |
Math | eglwys ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | canol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd ![]() |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 13 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.48504°N 3.1741°W ![]() |
Cod post | CF10 3DB ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II ![]() |
Cysegrwyd i | Dewi Sant ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Llandaf ![]() |
Eglwys plwyf yng nghanol dinas Caerdydd yw Eglwys Dewi Sant; hi yw'r unig eglwys Anglicanaidd yn y brifddinas sy'n cynnal gwasanaethau yn Gymraeg.
Bu sawl rhagflaenydd i'r adeilad bresennol fel eglwys Anglicanaidd Gymraeg Caerdydd. Y cyntaf oedd Eglwys yr Holl Saint yn Stryd Tyndall, a'i hagorwyd ym 1856, ond am fod siaradwyr Cymraeg y dref yn byw yn bennaf mewn ardaloedd eraill trodd yn raddol yn eglwys Saesneg ei hiaith. Fe'i dilynwyd ym 1891 gan yr eglwys gyntaf yng Nghaerdydd i ddwyn yr enw Dewi Sant, yng Ngerddi Howard. Dinistriwyd hon gan gyrch awyr ym 1941, ac ym 1956 symudodd y gynulleidfa i hen eglwys Sant Andreas.
Adeilad yw hon yn dyddio o 1860 i 1863; John Prichard a John Pollard Seddon oedd y penseiri gwreiddiol, ond oherwydd diffyg arian fe'i chwbwlhäwyd gan Alexander Roos, pensaer ystâd Ardalydd Bute, i gynllun llai uchelgeisiol. Ychwanegwyd dau dransept gan William Butterfield, pensaer Seisnig blaengar a fu hefyd yn gyfrifol am Eglwys Sant Awstin ym Mhenarth; gorffennwyd y rhain ym 1886. Yn yr un flwyddyn peintiwyd furluniau gan C. F. A. Voysey, pensaer blaenllaw y Mudiad Celf a Chrefft, ond diflannodd y rhain ym 1924 pan gosodwyd allor a reredos newydd yn eu lle.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Hanes. Eglwys Dewi Sant Caerdydd. Adalwyd ar 15 Mawrth 2014.
- Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. tt. 191–2.