Edgar Evans (canwr opera)
Gwedd
Edgar Evans | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mehefin 1912 Cwrtnewydd |
Bu farw | 22 Chwefror 2007 Northwick Park Hospital |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera, athro cerdd |
Cyflogwr | |
Arddull | opera |
Math o lais | tenor |
Canwr opera Cymreig oedd Timothy Edgar Evans (9 Mehefin 1912 – 22 Chwefror 2007).
Roedd yn frodor o bentref Cwrtnewydd, Ceredigion. Datblygodd ei uchelgais i fod yn ganwr opera wedi clywed Enrico Caruso yn canu ar y radio pan oedd yn ddeg oed. Roedd y rhan fwyaf o'i berfformiadau fel canwr opera yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden, Llundain, lle cymerodd 45 o rannau, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn rannau mawr, rhwng 1946 a 1975.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "EVANS, TIMOTHY EDGAR (1912 - 2007), canwr opera | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-21.