Earl Scruggs
Earl Scruggs | |
---|---|
Ganwyd | Earl Eugene Scruggs 6 Ionawr 1924 Boiling Springs |
Bu farw | 28 Mawrth 2012 Nashville |
Label recordio | Universal Music Group Nashville |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cyfansoddwr caneuon, banjöwr |
Arddull | Canu'r Tir Glas |
Priod | Louise Scruggs |
Plant | Randy Scruggs, Gary Scruggs, Steve Scruggs |
Gwobr/au | Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://earlscruggs.com/ |
Cerddor y Tir Glas o'r Unol Daleithiau oedd Earl Eugene Scruggs (6 Ionawr 1924 – 28 Mawrth 2012) a boblogeiddiodd arddull Scruggs, sef canu'r banjo trwy ei blicio â thri bys.
Dechreuodd Scruggs canu'r banjo'n bedwar mlwydd oed yng nghefn gwlad Gogledd Carolina. Pan oedd yn 10, dechreuodd blicio â'i fawd a'i fysedd blaen a chanol, techneg oedd i'w chael yng Ngogledd Carolina ond nid oedd mor boblogaidd â dull clawhammer. Dysgodd Scruggs i bwysleisio'r felodi â'r bawd ac i ganu'r harmoni â'r ddau fys.[1]
Ymunodd Scruggs â'r Blue Grass Boys dan Bill Monroe ym 1945, y band a arloesodd canu'r Tir Glas. Ar ôl gadael y band ym 1948, cydweithiodd Scruggs â'r gitarydd Lester Flatt, gan flaenu'r Foggy Mountain Boys. Recordiodd y ddau "Foggy Mountain Breakdown" ym 1949, a "The Ballad of Jed Clampett", sef arwyddgan y comedi sefyllfa The Beverly Hillbillies. Ym 1969 sefydlodd Scruggs yr Earl Scruggs Revue â'i feibion, gan ddod â therfyn i'w waith â Flatt. Hyd ei oes, roedd Scruggs yn agored i bob math o gerddoriaeth. Perfformiodd a recordiodd â nifer o gantorion a cherddorion gan gynnwys Bob Dylan, Joan Baez, Ravi Shankar, Leonard Cohen, Billy Joel, Steppenwolf, Sting, Elton John, Don Henley, a Johnny Cash.[1][2]
Ystyrir Scruggs yn un o oreuon offerynwyr canu'r Tir Glas, ac yn aml yn y banjöwr gorau erioed. Mae gwaith Scruggs a'i lyfr Earl Scruggs and the Five-String Banjo wedi ysbrydoli miliynau o fanjöwyr ar draws y byd.[2] Dywedodd Béla Fleck, "cymerodd [Scruggs] y banjo a'i wneud yn offeryn cerdd blaenllaw yn y byd".[3] Ar ôl marwolaeth Scruggs, ysgrifennodd yr actor a'r banjöwr Steve Martin mewn teyrnged iddo: "Mae ar ran fawr o gerddoriaeth Americanaidd ddyled i Earl Scruggs. Ychydig yw'r cerddorion sydd wedi newid y ffordd rydym yn clywed offeryn yn y ffordd mae Earl wedi, gan ei roi mewn categori gyda Miles Davis, Louis Armstrong, Chet Atkins, a Jimi Hendrix."[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Lehmann-Haupt, Christopher (29 Mawrth 2012). Earl Scruggs, Bluegrass Pioneer, Dies at 88. The New York Times. Adalwyd ar 6 Awst 2012.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Russell, Tony (29 Mawrth 2012). Earl Scruggs obituary. The Guardian. Adalwyd ar 6 Awst 2012.
- ↑ (Saesneg) Cooper, Peter (28 Mawrth 2012). Earl Scruggs, Country Music Hall of Famer and bluegrass innovator, dies at age 88. The Tennessean. Adalwyd ar 6 Awst 2012.
- ↑ (Saesneg) Banjo musician Earl Scruggs dies aged 8. BBC (29 Mawrth 2012). Adalwyd ar 6 Awst 2012.