E. T. A. Hoffmann
| E. T. A. Hoffmann | |
|---|---|
| Ffugenw | E. T. A. Hoffmann |
| Ganwyd | Ernst Theodor Wilhelm Hoffmann 24 Ionawr 1776 Königsberg |
| Bu farw | 25 Mehefin 1822 Berlin |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfansoddwr, barnwr, cartwnydd dychanol, arlunydd, awdur plant, ysgrifennwr, arweinydd, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol, nofelydd, beirniad cerdd, drafftsmon, dyddiadurwr, critig, cyfarwyddwr, fairy tales writer |
| Adnabyddus am | Undine, The Devil's Elixirs, The Nutcracker and the Mouse King, Mademoiselle de Scuderi, The Sandman, The Golden Pot, Master Flea |
| Arddull | opera |
| Mudiad | Rhamantiaeth, German Romanticism, Romantic literature |
| Tad | Christoph Ludwig Hoffmann |
| Mam | Louise Albertine Hoffmann |
| Priod | Maria Thekla Michaelina Hoffmann |
| Plant | Caecilia Hoffmann |
| Gwefan | http://www.etahg.de |
| llofnod | |
Llenor, cyfansoddwr, ac arlunydd o'r Almaen oedd Ernst Theodor Amadeus Hoffmann (ganwyd Ernst Theodor Wilhelm Hoffmann; 24 Ionawr 1776 – 25 Mehefin 1822).
Ganwyd yn Königsberg, Prwsia, a chafodd ei fagu gan ei ewythr. Astudiodd gwyddor y gyfraith (Studium der Rechte) ym Mhrifysgol Königsberg, a gwasanaethodd fel swyddog y gyfraith Brwsiaidd yn y taleithiau Pwylaidd o 1800 i 1806. Gweithiodd fel arweinydd cerddorfa, beirniad cerdd, a chyfarwyddwr theatr gerdd yn Bamberg a Dresden hyd at 1814. Tua'r flwyddyn 1813, fe newidiodd un o'i enwau bedydd, Wilhelm, i Amadeus er cof am y cyfansoddwr Wolfgang Amadeus Mozart. Ymhlith cyfansoddiadau Hoffmann mae'r bale Arlequin (1811) a'r opera Undine (perfformiwyd 1816).
Cyhoeddodd pedair cyfrol o straeon dan y teitl Phantasiestücke in Callots Manier (1814–15). Ysgrifennodd dwy nofel, Die Elixiere des Teufels (1815–16) a Lebens-Ansichten des Katers Murr nebst fragmentarischer Biographie des Kapellmeisters Johannes Kreisler (1820–22), a dau gasgliad arall o straeon byrion, Nachtstücke (1817), a Die Serapionsbrüder (1819–21). Daeth Hoffmann yn enw cyfarwydd i ddarllenwyr Almaeneg, a bu ei straeon hefyd yn boblogaidd yn Lloegr, yr Unol Daleithiau, a Ffrainc. Llenor yn y dulliau ffantasi, arswyd a ffuglen Gothig oedd Hoffmann, a nodwedda'i waith gan naws ryfedd ac annaearol, elfennau'r macabr a'r goruwchnaturiol, ac archwiliadau o seicoleg a realedd ei gymeriadau.
Ym 1814 fe'i benodwyd i'r llys apêl ym Merlin, a daeth yn gynghorwr ym 1816. Bu farw yn 46 oed o barlys cynyddol, o ganlyniad i syffilis. Ysbrydolwyd sawl cyfansoddwr opera a bale gan straeon Hoffmann, gan gynnwys Richard Wagner (Die Meistersinger von Nürnberg, 1868), Léo Delibes (Coppélia, 1870), Jacques Offenbach (Les contes d'Hoffmann, 1881), Pyotr Ilyich Tchaikovsky (Shchelkunchik, 1892), a Paul Hindemith (Cardillac, 1926).