Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr
Awdur | Gruffydd Aled Williams |
---|---|
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781784611569 |
Darlunydd | Iestyn Hughes |
Genre | Hanes Cymru |
Cyfrol gan Gruffydd Aled Williams yw Dyddiau Olaf Owain Glyn Dŵr a gyhoeddwyd yn 2016 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]
I nodi chwechan mlwyddiant tebygol marw Owain Glyn Dŵr, dyma astudiaeth o'r traddodiadau a ddatblygodd ynghylch ei ddyddiau olaf, man ei farwolaeth a mannau posib ei gladdu. Edrychir o'r newydd ar yr honiadau a wnaed ynghylch mannau claddu Glyn Dŵr, gan seilio'r ymdriniaeth ar ymchwil mewn llawysgrifau ac ar ymchwil ar lawr gwlad.
Yr awdur[golygu | golygu cod]
Ganwyd Gruffydd Aled Williams yn Ninbych a'i fagu yn Ninmael, Sir Ddinbych, a Glyndyfrdwy, Sir Feirionnydd. Bu'n darlithio yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn a Phrifysgol Cymru, Bangor ac yna'n Athro'r Gymraeg a Phennaeth Adran y Gymraeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o 1995 hyd 2008. Bu'n olygydd Llên Cymru o 1997 hyd 2012 a chyhoeddodd eisoes yn ystod y blynyddoedd diwethaf sawl erthygl ar Owain Glyn Dŵr.