Donald Coleman

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Donald Coleman
Ganwyd 19 Medi 1925 Edit this on Wikidata
Bu farw 14 Ionawr 1991 Edit this on Wikidata (65 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Substitute of the Parliamentary Assembly of the Council of Europe, Representative of the Parliamentary Assembly of the Council of Europe, Substitute of the Parliamentary Assembly of the Council of Europe, Substitute of the Parliamentary Assembly of the Council of Europe, Representative of the Parliamentary Assembly of the Council of Europe Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/au CBE Edit this on Wikidata

Roedd Donald Richard Coleman (19 Medi 192514 Ionawr 1991) yn wleidydd Llafur Cymreig ac yn Aelod Seneddol Llafur-Cydweithredol etholaeth Castell-nedd o 1964 hyd ei farwolaeth ym 1991 [1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Coleman yn y Barri, yn fab i Albert Archer Coleman, a Winifred Margurite (née Russell) ei wraig. Am gyfnod maith yn ystod ieuenctid Coleman bu ei dad yn ddiwaith gan wneud taclo diweithdra yn un o brif nodweddion ei yrfa wleidyddol.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol y Bechgyn Tregatwg a Choleg Technegol Caerdydd. Bu'n fyfyriwr aeddfed ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 1950 a 1954.

Priododd Phyllis Eileen Williams ym 1949, bu iddynt un mab; bu hi farw ym 1963. Ym 1966 priododd Margaret Elizabeth Morgan fu iddynt un ferch.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Coleman yn gweithio fel technegydd labordy yn Ysgol Meddygol Cenedlaethol Cymru, Caerdydd o 1940 hyd 1942, fel technegydd yn Labordy ymchwil i'r ddarfodedigaeth, Caerdydd 1942-1946 ac fel prif dechnegydd Coleg Technoleg Abertawe o 1946 i 1950. Cafodd ei benodi yn metalegydd yn Adran Ymchwil Cwmni Dur Cymru, yng Ngweithfeydd yr Abaty, Port Talbot ar ôl graddio o 'r Brifysgol gan barhau yn y swydd hyd ei ethol i'r senedd.[2]

Fel technegydd ymunodd ag undeb llafur Cymdeithas y Gweithwyr Gwyddonol ac wedi symud i Gwmni Dur Cymru daeth yn aelod o undeb BISAKTA (Cymdeithas Haearn, Dur a Chrefftau Cyffelyb Prydain). Roedd yn aelod o'r corff proffesiynol y Cydffederasiwn Masnachau Haearn a Dur.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymunodd Coleman a'r Blaid Lafur ym 1948 a'r Blaid Cydweithredol ym 1955.

Yn groes i'r disgwyl cafodd ei ddewis yn ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Castell-nedd ar ymddeoliad David James Williams. Hyd ddewis Coleman ystyrid Castell-nedd fel etholaeth lofaol lle byddai enwebiad gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn fantais sylweddol yn y gynhadledd dewis, er ei fod yn ddyn dur yn hytrach na dyn glo enillodd Coleman yr enwebiad ar y bedwaredd rownd o bleidleisio, gan etifeddu un o'r seddau Llafur mwyaf diogel Prydain.

Yn y Senedd bu Coleman yn gwasanaethu fel ysgrifennydd seneddol preifat i George Thomas, Eirene White a Cledwyn Hughes. Gwasanaethodd fel chwip yr wrthblaid o 1970 hyd 1974, Arglwydd y Trysorlys (chwip y Llywodraeth) o 1974 hyd 1978, Is-Ganhellor yr Aelwydydd (yn gyfrifol am baratoi adroddiad Seneddol i'r Frenhines) o 1978 hyd 1979, a llefarydd y wrthblaid ar faterion Cymreig o 1981 hyd 1983. Bu hefyd yn gwasanaethu fel cynrychiolydd Prydain ar Gyngor Ewrop.

Cyhoeddodd Coleman yn gynnar ym 1990 ei fod yn bwriadu sefyll i lawr o'r Senedd yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf ond bu farw yn y cyfamser.[3]

Gwasanaeth Cyhoeddus amgen[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Coleman yn aelod o gorws y Cwmni Opera Cenedlaethol, lle perfformiodd fel tenor unawdydd a Chwmni Opera Amatur Abertawe. Fe'i penodwyd yn Ynad Heddwch ar fainc bwrdeistref Abertawe ym 1962. Dyfarnwyd y CBE iddo ym 1979, a chafodd ei benodi'n Ddirprwy Raglaw Gorllewin Morgannwg ym 1985

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw o drawiad ar y galon mewn ambiwlans ar y ffordd o Dŷ'r Cyffredin i'r Ysbyty,[4] ond gan fod traddodiad nad oes hawl i farw yn y Senedd mae'n bosib ei fod wedi marw yn ei swyddfa seneddol[5]

Cafodd ei weddillion eu llosgi yn amlosgfa Margam.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur COLEMAN, DONALD RICHARD (1925-1991), gwleidydd Llafur adalwyd 11 Awst 2016
  2. ‘COLEMAN, Donald Richard’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920-2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 10 Aug 2016
  3. "Donald Coleman." Times [London, England] 16 Jan. 1991: 20. The Times Digital Archive. Web. 11 Aug. 2016.[1]
  4. "Labour MP dies." Times [London, England] 15 Jan. 1991: 2. The Times Digital Archive. Web. 11 Aug. 2016. [2]
  5. Don't die in parliament, it's the law
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David James Williams
Aelod Seneddol Castell-nedd
19641991
Olynydd:
Peter Hain