Dmitri Mendeleev

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dmitri Mendeleev
DIMendeleevCab.jpg
Ganwyd Дмитрий Иванович Менделеев, Дмитрій Ивановичъ Менделѣевъ Edit this on Wikidata
27 Ionawr 1834 Edit this on Wikidata
Tobolsk Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Ionawr 1907, 2 Chwefror 1907 Edit this on Wikidata (72 oed)
Achos: niwmonia Edit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
Addysg athro prifysgol, athro prifysgol Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prif Sefydliad Addysgol Rwsia
Galwedigaeth cemegydd, ffisegydd, academydd, economegydd Edit this on Wikidata
Swydd Privatdozent, uwch athro prifysgol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Ymerodrol Sant Petersburg
  • Q51882723
  • Richelieu Lyceum
Gwaith nodedig Tabl cyfnodol Edit this on Wikidata
Priod Anna Ivanova Popova Edit this on Wikidata
Plant Vladimir Mendeleev, Lioubov Blok, Vasily Mendeleev Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky, Medal Copley, Gwobr Darlithyddiaeth Faraday, Gwobr Demidov, Urdd Sant Anna, Dosbarth 1af, Urdd Sant Anna, Ail Ddosbarth, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd Santes Anna, Dosbarth 1af, Urdd Sant Vladimir, Ail Ddosbarth, Urdd Sant Vladimir, Dosbarth 1af, Marchog y Lleng Anrhydeddus, Urdd Alexander Nevsky, Lleng Anrhydedd, Medal Davy Edit this on Wikidata
Llofnod
Mendelejew signature.jpg

Dmitri Ivanovich Mendeleev (8 Chwefror 1834, Tobolsk, Rwsia - 2 Chwefror 1907, St Petersburg, Rwsia).

Cemegydd o Rwsia oedd Dmitri Mendeleev. Mae e'n cael y clod am ddatblygu'r fersiwn gyntaf o dabl cyfnodol yr elfennau cemegol. Yn wahanol i gemegwyr eraill, defnyddiodd Mendeleev ei dabl i ragfynegi priodweddau cemegol elfennau anhysbys. Profwyd ei ragfynegiadau'n gywir gan ddarganfyddiadau'r elfennau hyn ac astudiaethau o'u priodweddau.

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Mendeleev ei eni yn Tobolsk, Siberia, i Ivan Pavlovich Mendeleev a Maria Dmitrievna Mendeleeva (nee Kornilieva). Nid oes sicrwydd, ond mae'n debygol mai Mendeleev oedd y 13eg o 17 o blant. Roedd ei rieni yn perchen ar ffatri cynhyrchu gwydr, ac wrth weithio yna magwyd ei ddiddordeb cynnar yng nghemeg, ac yn 13 dechreuodd ef fynychu'r gymnasium yn Tobolsk.

Collodd ef ei dad yn gynnar, ac yn 1849, symudodd y teulu i St Petersberg, lle ddechreuodd y Mendeleev ifanc astudio yn y brif athrofa bedagogaidd. Ar ôl iddo ennill ei radd, dioddefodd o salwch arw, ac fe symudodd i'r Crimea i weithio fel athro gwyddoniaeth yn y gymnasium lleol. Yn 1857, ar ôl iddo wella, cafodd gyfle i ddychwelyd i St Petersberg, cyn treulio cyfnod yn yr Almaen ym mhrifysgol Heidelberg.

Yn 1862, fe briododd Feozva Nikitichna Leshcheva, cyn ennill swydd fel athro prifysgol yn athrofa dechnolegol a phrifysgol St Petersburg. Erbyn 1871, roedd ei waith wedi llwyddo i wneud St Petersberg yn ganolfan fyd-enwog am ymchwil cemegol. Dechreuodd ei obsesiwn gyda Anna Ivanovna Popova yn 1876, ac erbyn 1881 roedd e wedi gofyn iddi ei briodi. Priododd y ddau mis cyn i ysgariad Mendeleev o'i wraig gyntaf ddod yn swyddogol. Roedd ei ddwywreigiaeth yn sgandal fawr, ac mae'n debyg mai hyn achosodd ei fethiant i gael brodoriaeth yn academi gwyddonol Rwsia, er iddo fod yn wyddonydd byd-enwog.

Cafodd Mendeleev fab a merch o'i briodas gyntaf, sef Volodya ac Olga. Daeth ei ferch o'i ail briodas, Lyubov, yn wraig i'r cerddor Aleksander Blok, gydag Anna hefyd yn rhoi mab a phâr o efeilliaid iddo.

Ar ôl bron deg ar hugain mlynedd yn St Petersberg, wnaeth Mendeleev ymddiswyddo yn 1890. Yn 1893 cafodd ei benodi'n bennaeth ar yr swyddfa bwyso a mesur. Yno gwnaeth lawer o waith ar gynhwysion olew a arweiniodd at sefydliad y burfa olew gyntaf yn Rwsia. Fe fu marw Mendeleev o'r ffliw yn 1907 yn St Petersburg. Cafodd yr elfen Mendeleefiwm (rhif 101) a crater Mendeleev ar y lleuad eu henwi ar ei ôl.

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Tabl cyfnodol yr elfennau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd Mendeleev ei lyfr 'Egwyddorion Cemeg' fel ddwy gyfrol tra oedd yn athro yn St Petersberg rhwng 1868 a 1870. Yn ystod ei waith, gwelodd batrymau ymysg yr elfennau cemegol. Y patrymau hyn a arweiniodd at ei dabl cyfnodol. Roedd ei waith yn debyg i waith gan wyddonwyr eraill, fel John Newlands ('Y ddeddf wythfedau', 1864) a gwaith Lothar Meyer ar 28 elfen yn 1864. Y gwahaniaeth rhwng eu gwaith nhw a gwaith Mendeleev oedd ei lwyddiant wrth ragfynegi priodweddau elfennau newydd. Y gallu i wneud rhagfynegiadau yw un o gryfderau'r tabl cyfnodol.

Er mwyn datblygu'r tabl, trefnodd Mendeleev yr elfennau yn nhrefn eu masau atomig, gan weld y patrymau canlynol:

  1. Mae gan elfennau sy'n dangos priodweddau cemegol cyffelyb fasau atomig tebyg, neu rhai sy'n cynyddu mewn camau rheolaidd.
  2. Pan drefnir y grwpiau yn nhrefn eu masau atomig, gwelir patrwm amlwg yn falensi'r atomau.
  3. Gwelir y gwahaniaethau mwyaf rhwng elfennau gyda masau atomig bach.
  4. Mae'r mas atomig yn rheoli cymeriad yr atom, mewn modd tebyg i effaith mas moleciwl ar gymeriad cyfansoddyn.
  5. Dylid disgwyl i elfennau newydd gael eu darganfod i lenwi bylchau a adawyd yn y tabl, er enghraifft elfennau sydd yn aelodau o'r un grwpiau â silicon ac alwminiwm. Galwodd Mendeleev y rhain yn eka-silicon ac eka-alwminiwm.
  6. Bydd rhaid cyfnewid lleoliadau rhai elfennau ar sail eu priodweddau cemegol, ac awgrymodd fod y mas atomig yn anghywir. Heddiw rydym yn ymwybodol mai rhif atomig ac nid mas atomig sy'n rheoli trefn yr elfennau.
  7. Gellid rhagfynegi rhai priodweddau elfen gemegol o'i lleoliad yn y tabl cyfnodol.

Cyflwynodd Mendeleev ei syniadau i Gymdeithas Gemegol Rwsia ar 6 Mawrth, 1869, ychydig fisoedd cyn i Meyer gyflwyno tabl tebyg iawn. Rhagfynegiadau Mendeleev o briodweddau eka-silicon (germaniwm), eka-alwminiwm (galiwm) ac eka-boron (scandiwm) sy'n gwneud ei waith yn allweddol i ddatblygiad cemeg.

Cyfraniadau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1869: Mendeleev yw un o'r gwyddonwyr sy'n sefydlu Cymdeithas Gemegol Rwsia.
  • 1902: Mendeleev yn awgrymu fod yna nwyon anadweithiol o'n hamgylch. Yn anffodus, credodd fod ganddynt fasau atomig llai na hydrogen.
  • Yn ystod astudiaethau o effeithiau gwres ar hylif awgrymodd fod pwynt critigol i bob sylwedd, lle bo'r cydlyniad yn hafal i'r enthalpi anweddiad.
  • Datblygodd pyrocollodion fel deunydd ffrwydrol ar gyfer lluoedd arfog Rwsia.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Tabl Cyfnodol[golygu | golygu cod y dudalen]

Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]