Diddymu'r mynachlogydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Digwyddodd diddymu'r mynachlogydd yng Nghymru a Lloegr yn nheyrnasiad y brenin Harri VIII o Loegr.

Roedd y mynachlogydd canoloesol yn sefydliadau pwysig iawn yn hanes a diwylliant y ddwy wlad ond erbyn diwedd yr Oesoedd Canol roeddent wedi dirywio'n sylweddol. Ar un adeg roedd y mynachlogydd Cymreig - yn arbennig y tai Sistersaidd - yn ganolfannau dysg a chrefydd lle ceid nawdd a chroeso i'r beirdd. Dioddefodd y mynachlogydd o effeithiau economaidd a chymdeithasol y Pla Du yn y 14eg ganrif a'r rhyfeloedd niferus yn y ganrif olynol. Roedd yr Eglwys ei hun wedi troi'n fydol ac roedd cyflwr y mynachlogydd yn adlewyrchu hynny. Roedd llawer ohonynt wedi gwerthu eu tiroedd i foneddigion lleol ac roedd nifer y mynachod yn isel.

Penderfynodd Harri VIII fod rhaid cael gwared â'r tai crefyddol fel rhan o'i ymgais i sefydlu ei hun fel pennaeth Eglwys Loegr. Anfonodd gomisiynwyr allan i archwilio cyflwr y mynachlogydd a rhoddwyd eu hadroddiad ar werth y tai, y Valor Ecclesiasticus, iddo; ymhlith y goruchwylwyr yng Nghymru oedd Elis Prys (Y Doctor Coch) o Blas Iolyn. O ganlyniad caewyd 48 o dai yng Nghymru (bron y cyfan) yn 1536 ac erbyn diwedd y ddegawd nid oedd yr un mynachlog ar ôl.

Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato