Deud Yda Ni

Oddi ar Wicipedia
Deud Yda Ni
Enghraifft o'r canlynoldrama Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Detholiad o wyth sgets Gymraeg yw Deud Yda Ni a sgwennwyd gyda'r bwriad o'u perfformio gan Gwmni Theatr Cymru yn Neuadd Buddug, y Bala yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967. Cafodd y sgetsys eu sensro gan Albert Evans-Jones (Cynan).[1]

Y tîm sgriptio oedd Gwenlyn Parry (golygydd), Rhydderch Jones, Wil Sam, John Roberts, Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones. Teitlau'r wyth sgets oedd; Dewis Aelodau'r Cyngor, Jiwbili Jiwbilant, Tedi Boi yn yr Eisteddfod, Glanhau'r Teledu, Saer Doliau, Seiat Cymraeg, Dysgu Cymraeg a Ras yr Eisteddfod.

Sensro[golygu | golygu cod]

Cafodd Deud Yda Ni ei sensro gan Albert Evans-Jones, er honnir bod rhan helaeth o'r cynnwys eisoes wedi ymddangos ar y teledu ar raglen Stiwdio B ar y BBC.[2]

Cast[golygu | golygu cod]

Ymysg y cast roedd Gaynor Morgan Rees, Mari Griffith, Ronnie Williams, Ryan Davies, Stewart Jones ac Olwen Rees.[3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Williams, Gerwyn (Hydref 2013). Y Sgets a Gadd ei Gwrthod, Rhifyn 609. Barn. URL
  2. Williams, Gerwyn (Hydref 2013). Y Sgets a Gadd ei Gwrthod, Rhifyn 609. Barn
  3. Gaynor Morgan Rees, Mari Gruffydd in the light-hearted series, Deud yda ni Casgliad Geoff Charles, Europeana
  4. XD/68/1/11 SCRIPT Sioe Deud Yda Ni[dolen marw] Catalog Ar-lein Archifau Gwynedd
Eginyn erthygl sydd uchod am y theatr yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.