Neidio i'r cynnwys

Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Y Pla Du yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Prif: Y Pla Du

Cafodd pandemig y Pla Du yng Nghymru effaith sylweddol ar fywyd trigolion Cymru yn ail hanner y 14eg ganrif. Ni ddiflannodd yn llwyr o'r wlad tan ddiwedd yr Oesoedd Canol ond bu ar ei anterth yn nhrydydd chwarter y 14eg ganrif. Enw arall ar y pla yng Nghymru oedd "Haint y nodau".

Y trefi marchnad arfordirol ac ardaloedd poblog eraill a ddioddefodd fwyaf o’r Pla Du yng Nghymru. Amcangyfrifwyd bod tua chwarter o’r boblogaeth gyfan wedi marw yn ystod ymweliad cyntaf y Pla â Chymru rhwng 1349 a 1350. Achosodd hyn lawer o dlodi a chaledi ac roedd prinder gweithwyr oherwydd y gyfradd farwolaeth uchel. Bu ail don o’r Pla Du yng Nghymru rhwng 1361 a 1362.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Y "Pla Du" yw'r enw a ddefnyddir am y pandemig gwaethaf a gofnodwyd yn hanes y ddynoliaeth. Dechreuodd yn ne-orllewin Asia ac ymledodd i Ewrop erbyn diwedd y 1340au. Credir i o leiaf 75 miliwn o bobl farw o'r pla, gan gynnwys o leiaf draean o boblogaeth Ewrop. Cafodd y pla effaith fawr ar Ewrop, gan achosi nifer o newidiadau cymdeithasol. Lleihaodd awdurdod yr Eglwys Gatholig, ac arweiniodd at erlid Iddewon. Credir fod y pla wedi ei achosi gan Yersinia pestis, sy'n endemig yng nghanolbarth Asia. Mae'r bacillus yn cael ei gario mewn chwain sy'n byw ar lygod mawr, ond yn medru brathu bodau dynol hefyd. Mae'n bosibl bod y pla wedi ei gario tua'r dwyrain a'r gorllewin gan fyddinoedd y Mongoliaid. Roedd dau fersiwn o'r pla, y math llinorog (bubonic), a geid o frathiadau chwain oedd yn cario'r haint, a'r math niwmonig, y gellid ei ddal drwy anadlu.

Y pla yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Yn 1347 cofnodwyd bod y Pla Du yn yr Eidal ac erbyn Mawrth 1349 roedd cofnod o’r achos cyntaf yng Nghymru. Credwyd bod y Pla wedi cael ei gario gan deithwyr o dde Lloegr wedi iddynt gyrraedd Cymru ar y môr.

Roedd casglwyr trethi Caerfyrddin, a oedd ar y pryd yn borthladd pwysig, a thrigolion tref y Fenni, ymhlith y bobl gyntaf a fu farw o’r Pla yng Nghymru. Cyn bo hir lledaenodd yr afiechyd ar draws y wlad gyfan. Cafodd Cil-y-coed ei tharo’n wael yn ogystal â threfi gorllewin Cymru fel Penfro a Hwlffordd. Ysgubodd y Pla drwy boblogaeth mwyngloddwyr Treffynnon a lladd canran uchel iawn ohonynt.

Yng ngolwg trigolion pentrefi a threfi Cymru roedd y Pla yn arwydd o ddinistr a distryw. Credent ei fod yn gosb oddi wrth Dduw ac roedd ofergoeliaeth am y Pla yn rhemp drwy’r wlad. Roedd beirdd y cyfnod, fel Ieuan Gethin, a gollodd ei fywyd i’r Pla, yn dweud bod marwolaeth yn dod i’r gymdeithas ar ffurf mwg du. Dywedodd hefyd fod pob un o’i feibion wedi marw o’r Pla.

Roedd symptomau’r Pla yn cynnwys chwyddu o dan y gesail, pennau tost ofnadwy, briwiau a oedd wedyn yn troi’n ddrwg, a'r cyfan yn arwain at farwolaeth.

Daeth y Pla Du yn ôl i Brydain ar sawl achlysur yn ystod y 14eg ganrif. Trawyd Cymru yn ofnadwy rhwng 1361 a 1362 ac yn 1369. Ar y ddau achlysur hyn bu farw canran uchel o bobl ifanc.[1]

Roedd canlyniadau’r Pla Du yn sylweddol ac yn llym. Lleihawyd nifer y gweithwyr amaethyddol, gan adael llawer o dir i fynd yn ddiffaith. O ganlyniad bu llawer o dlodi. Yn sgil swm uchel y marwolaethau roedd trethi uchel yn cael eu rhoi ar y rhai oedd dal yn fyw. Gadawodd llawer o denantiaid a ffermwyr eu cartrefi yng Nghymru er mwyn cychwyn bywydau newydd yn Lloegr.[2]

Credir fod effaith y Pla Du ar yr economi wedi bod yn rhannol gyfrifol am yr anfodlonrwydd a arweiniodd at wrthryfel Owain Glyndŵr.[3]

Disgrifiadau cyfoes

[golygu | golygu cod]

Ceir disgrifiad o'r Pla Du, neu o leiaf sôn amdano, mewn cerddi gan nifer o feirdd o'r cyfnod, yn cynnwys Ieuan Gethin o Forgannwg.

Mewn dau gywydd, cyfeiria Ieuan at golli pump o'i blant i "haint y nodau", sef Siôn ac Ifan a Morfudd a Dafydd a Dyddgu. Roedd wedi addo rhodd aur i'r eglwys pe bai ei fab hynaf, Siôn, yn dianc o afael y pla:

Addewaid ar weddïon
Ei bwys o aur er byw Siôn;
Ar Dduw er a weddïais
Ni chawn Siôn mwy na chan Sais![4]

Disgrifia'r chwarren oedd mor nodweddiadol o'r haint. Mor fychan yw ond mae'n "difa dyn":

Gŵyth llid yw gwaetha lle dêl,
Glain a bair ochain uchel.../
Chwarren bach ni eiriach neb ;
Mawr ei ferw mal marworwyn,
Modfedd a bair diwedd dyn.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Mosalski, Ruth (2017-11-05). "Wales' grim histories: The gruesome forgotten stories from our past". WalesOnline. Cyrchwyd 2020-09-07.
  2. "The Black Death hits Wales". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-07.
  3. John Davies Hanes Cymru (Penguin, 2007).
  4. 4.0 4.1 G.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 29.