David Hasselhoff

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
David Hasselhoff
David Hasselhoff 2013.jpg
Ganwyd David Michael Hasselhoff Edit this on Wikidata
17 Gorffennaf 1952 Edit this on Wikidata
Baltimore Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad Celf California
  • Prifysgol Bates
  • Oakland University Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Actor, actor teledu, Canwr, Cynhyrchydd ffilm, person busnes, Ysgrifennwr, cyfarwyddwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor llais Edit this on Wikidata
Arddull Cerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Priod Pamela Bach, Catherine Hickland Edit this on Wikidata
Plant Hayley Hasselhoff Edit this on Wikidata
Gwefan http://davidhasselhoffonline.com/ Edit this on Wikidata

Actor, canwr, cynhyrchydd a dyn busnes Americanaidd yw David Hasselhoff (ganwyd 17 Gorffennaf 1952),[1] sydd hefyd yn adnabyddus fel "The Hoff".[2]

Daeth i sylw gyntaf ar opera sebon The Young and The Restless, yn chwarae Dr. Snapper Foster. Datblygodd ei yrfa yn yr 1980au gyda'r brif rhan o Michael Knight ar y gyfres Knight Rider ac yr achubwyr bywyd Mitch Buchannon ar y gyfres Baywatch. Mae wedi ymddangos yn y ffilmiau Click (2006), Dodgeball, ffilm SpongeBob Squarepants a Hop.

Yn 2000, ymddangosodd am y tro cyntaf ar Broadway yn y sioe gerdd Jekyll & Hyde. Yn dilyn hynny serennodd mewn mwy o sioeau cerdd yn cynnwys Chicago a The Producers.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Hasselhoff yn Baltimore, Maryland, yn fab i Dolores Therese (née Mullinex/Mullinix; bu farw 11 Chwefror 2009), gwraig tŷ, a Joseph Vincent Hasselhoff, gweithredwr busnes.[1][3] Mae ei deulu yn Babyddion, o dras Almaenig, Gwyddelig a Saesnig.[3][4][5] Ymfudodd ei hen-hen-fam-gu, Meta, gyda'i theulu i Baltimore o Völkersen, Yr Almaen , 30 kilometr (19 mi) o Bremen, yn 1865.[6]

Treuliodd ei blentyndod yn Jacksonville, Florida, ac aeth i fyw yn ddiweddarach yn Atlanta, Georgia, lle mynychodd Ysgol Uwchradd Marist. Perfformiodd Hasselhoff am y tro cyntaf ar lwyfan yn saith oed mewn sioe gerdd Peter Pan, ac ers hynny ei freuddwyd oedd cael gyrfa ar Broadway.[7] Graddiodd o Ysgol Uwchradd Lyons Township yn La Grange, Illinois yn 1970. Roedd yn aelod o'r tîm siarad cyhoeddus, arweinwyr trafod, llywydd y côr, capten y tîm pêl foli a chwaraeodd rannau mewn sawl drama (yn cynnwys un prif ran fel Matt yn The Fantasticks). Astudiodd ym Mhrifysgol Oakland cyn cael gradd theatr yn California Institute of the Arts.[8]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn briod a'r actores Catherine Hickland o 24 Mawrth 1984 hyd 1 Mawrth 1989.[1] Ail-grewyd eu priodas ym mhennod "The Scent of Roses" ym mhedwerydd cyfres Knight Rider a ddarlledwyd gyntaf ar 3 Ionawr 1986.

Priododd Hasselhoff yr actores Pamela Bach yn Rhagfyr 1989.[9] Mae gan y cwpl ddwy ferch: Taylor Ann Hasselhoff, ganwyd 5 Mai 1990,[10] a fynychodd Prifysgol Arizona ac oedd yng nghast cyfres Rich Kids of Beverly Hills yn 2015, a'r actores Hayley Hasselhoff, ganwyd 28 Awst 1992.[11] Yn Ionawr 2006, cyhoeddodd Hasselhoff ei fod yn cofrestru am ysgariad, gan nodi anghytundeb digymod.[9] Cwblhawyd yr ysgariad yn Awst 2006.[12] Rhoddwyd gwarchodaeth un ferch i Bach a'r ferch arall i Hasselhoff,[13] hyd nes i Hasselhoff gael gwarchodaeth o'r ddau yn ddiweddarach.[12] Yn Rhagfyr 2010 roedd yn byw Ne Califfornia gyda'i ferched.[14]

Ers 2013, mae Hasselhoff wedi caru gyda Hayley Roberts, o Glyn-nedd. Mae'n dilyn rygbi'r undeb Cymreig, ac maent wedi mynd i nifer o gemau rygbi yng Nghymru.[15][16][17] Priododd y ddau ar 31 Gorffennaf 2018 yn yr Eidal.[18][19][20]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 "David Hasselhoff Biography (1952–)" (yn en). Filmreference.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. http://www.filmreference.com/film/77/David-Hasselhoff.html. Adalwyd 4 Awst 2010.
  2. "New crab with hairy chest dubbed "The Hoff"" (yn en). CBS News. 5 Ionawr 2012. http://www.cbsnews.com/news/new-crab-with-hairy-chest-dubbed-the-hoff. Adalwyd 4 Ionawr 2014.
  3. 3.0 3.1 Hasselhoff, David; Thompson, Peter (2007). Making waves: The autobiography (in Saesneg). Thomas Dunne Books. ISBN 9780340909294. Adalwyd 2014-01-04. 
  4. Kohlhöfer, Philipp (3 Tachwedd 2010). "Trying to Be German in South L.A." (yn en). Der Spiegel. http://www.spiegel.de/international/zeitgeist/0,1518,683057,00.html. Adalwyd 17 Mai 2010. "I thought for a moment. I needed examples of internationally famous German stars. But all I could offer in the way of music, aside from the great bard Hasselhoff, was The Scorpions"
  5. "David Hasselhoff sucht deutsche Verwandtschaft – Der US-Amerikaner David Hasselhoff sucht in der Nähe von Kassel nach seinen deutschen Wurzeln" (yn en). Klamm.de. http://www.klamm.de/partner/unter_news.php?l_id=3&news_id=6562. Adalwyd 22 Mai 2011.
  6. von der Wieden, Bianca (25 Gorffennaf 2010). "SWR1 Leute überrascht David Hasselhoff mit Bremer Vorfahren" (yn German). Presseportal. http://www.presseportal.de/pm/7169/1653740/swr_suedwestrundfunk. Adalwyd 22 Rhagfyr 2010.
  7. Heller, Corinne. "OTRC: DAVID HASSELHOFF STARRING IN 'PETER PAN' IN UK, VISITS CHILDREN'S HOSPITAL BEFORE CHRISTMAS" (yn en). http://abc7.com/archive/8927581. Adalwyd 23 Mehefin 2015.
  8. "Notable Alumni, California Institute of the Arts" (yn en). Calarts.edu. Archifwyd o y gwreiddiol ar 5 Ionawr 2008. https://web.archive.org/web/20080105054408/http://calarts.edu/theater/notablealumni. Adalwyd 4 Awst 2010.
  9. 9.0 9.1 Silverman, Stephen M. (13 Ionawr 2006). "David Hasselhoff Files for Divorce". People. http://www.people.com/people/article/0,,1148737,00.html. Adalwyd 3 Mai 2016.
  10. "The Birth of Taylor Hasselhoff" (yn en). CaliforniaBirthIndex.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. http://www.californiabirthindex.org/birth/taylor_ann_hasselhoff_born_1990_19925424. Adalwyd 16 Gorffennaf 2015.
  11. "The Birth of Hayley Hasselhoff" (yn en). CaliforniaBirthIndex.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. http://www.californiabirthindex.org/birth/hayley_amber_hasselhoff_born_1992_21443330. Adalwyd 15 Ebrill 2014.
  12. 12.0 12.1 "Ex-Attorney Sues Pamela Bach" (yn en). The Washington Post. Associated Press. 24 Awst 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2016. https://www.washingtonpost.com/wp-dyn/content/article/2007/08/24/AR2007082400819.html. Adalwyd 22 Gorffennaf 2012. "Bach replaced [attorney Debra A]. Opri with Mark Vincent Kaplan several days after losing custody of the couple's two teenage daughters."
  13. "Hasselhoff 'violent' claims wife" (yn en). BBC News. 9 Mawrth 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mawrth 2016. http://news.bbc.co.uk/1/hi/entertainment/4788500.stm. Adalwyd 3 Mai 2016.
  14. Hinckley, David (2 Rhagfyr 2010). "The Hoff is no Knight Rider in A&E reality show" (yn en). NY Daily News. http://www.nydailynews.com/entertainment/tv-movies/hoff-justifies-drunken-cheeseburger-rant-mentors-daughters-e-show-hasselhoffs-article-1.470986. Adalwyd 4 Rhagfyr 2017.
  15. "David Hasselhoff spotted in disguise at Wales rugby game". BBC News. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-32451656. Adalwyd 13 Tachwedd 2015.
  16. Kathryn Williams (24 Ebrull 2015). "David Hasselhoff's Welsh girlfriend Hayley Roberts on living and loving a legend" (yn en). walesonline. http://www.walesonline.co.uk/whats-on/film-news/david-hasselhoffs-welsh-girlfriend-hayley-9113223.
  17. "Autumn Internationals: David Hasselhoff's advice for Wales" (yn en). BBC Sport. https://www.bbc.co.uk/sport/rugby-union/30159948. Adalwyd 13 Tachwedd 2015.
  18. "David Hasselhoff, 65, reveals he's marrying Hayley Roberts, 37" (yn en). Mail Online. http://www.dailymail.co.uk/tvshowbiz/article-5958311/David-Hasselhoff-65-gushes-wedding-plans-marry-Hayley-Roberts-37-Italian-ceremony.html.
  19. "David Hasselhoff Details Upcoming Wedding to Hayley Roberts (Exclusive)" (yn en-US). https://www.msn.com/en-us/tv/celebrity/david-hasselhoff-details-upcoming-wedding-to-hayley-roberts-exclusive/ar-AAA8oQv.
  20. "David Hasselhoff, 66, and Model Hayley Roberts, 38, Get Married in Italy!" (yn en). https://www.msn.com/en-us/tv/celebrity/david-hasselhoff-66-and-model-hayley-roberts-38-get-married-in-italy/ar-BBLkzC9.