Neidio i'r cynnwys

Danylo Struk

Oddi ar Wicipedia
Danylo Struk
Ganwyd5 Ebrill 1940 Edit this on Wikidata
Lviv Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mehefin 1999 Edit this on Wikidata
München Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, critig, ysgolhaig llenyddol, golygydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Academydd a golygydd AmericanaiddGanadaidd a bardd yn yr iaith Wcreineg oedd Danylo Husar Struk (5 Ebrill 194019 Mehefin 1999). Treuliodd ei yrfa'n athro ym Mhrifysgol Toronto.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Danylo Struk yn Lviv (Pwyleg: Lwów) ar 5 Ebrill 1940, rhyw saith mis wedi i'r Undeb Sofietaidd, gyda chymorth yr Almaen Natsïaidd, gipio'r ddinas honno oddi ar Wlad Pwyl ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Cafodd ei dad, Evstakhiy (Ostap) Struk, cyfarwyddwr Sefydliad Meddygol Lviv, ei lofruddio gan yr NKVD yn 1941, ac aeth Danylo gyda'i fam, Daria, i'r Almaen yn 1944. Yno, priododd Daria ddyn o'r enw Wasyl Husar. Ymfudodd y teulu i'r Unol Daleithiau yn Rhagfyr 1949, ac ymsefydlasant yn nhalaith New Jersey.[1]

Enillodd Danylo ysgoloriaeth i Brifysgol Harvard, ac ysgrifennodd ei draethawd estynedig ar bwnc barddoniaeth Pavlo Tychyna. Derbyniodd ei radd baglor yn 1963, a gwobrwywyd Cymrodoriaeth Woodrow Wilson iddo yn 1963–64. Astudiodd am radd meistr mewn llenyddiaeth Wcreineg ym Mhrifysgol Alberta yn 1964, ac aeth i Brifysgol Toronto i gychwyn ar ei ddoethuriaeth. Derbyniodd ei ddoethuriaeth yn 1970 am ei astudiaeth o waith Vasyl Stefanyk.[1]

Gyrfa academaidd

[golygu | golygu cod]

Ymunodd ag adran ieithoedd a llenyddiaethau Slafonaidd Prifysgol Toronto fel isddarlithydd yn 1971, a fe'i penodwyd yn athro yn 1982. Yn Ebrill 1982 hefyd fe'i penodwyd yn gadeirydd yr adran Slafonaidd am gyfnod o bum mlynedd. Addysgodd gyrsiau ar bynciau barddoniaeth, rhyddiaith a drama fodern yn yr iaith Wcreineg. Roedd yn arbenigwr ar weithiau'r beirdd Ihor Kalynets ac Emma Andijewska, a chyhoeddodd erthyglau ac ysgrifau yn rheolaidd mewn cyfnodolion academaidd megis Journal of Ukrainian Studies, Harvard Ukrainian Studies, Slavic Review, Slavic and East European Journal, Canadian Slavonic papers, a hefyd mewn cylchgronau'r Wcreiniaid ar wasgar megis Suchasnist a Novi Dni. Ysgrifennodd Struk hefyd werslyfr i ddysgu'r iaith Wcreineg, Ukrainian for Undergraduates (1978).[1]

Yn 1982, penodwyd Struk yn rheolwr golygyddol Prosiect Gwyddoniadur yr Wcráin, cywaith dan olygyddiaeth yr Athro Volodymyr Kubiyovych a dan nawdd Cymdeithas Wyddonol Shevchenko (NTSh), gyda chefnogaeth y Canadian Institute of Ukrainian Studies (CIUS), y Canadian Foundation for Ukrainian Studies (CFUS), llywodraeth ffederal Canada, a llywodraethau taleithiol Manitoba, Saskatchewan, a British Columbia. Cyhoeddwyd dwy gyfrol gyntaf yr Encyclopedia of Ukraine yn 1984 a 1988 gan Wasg Prifysgol Toronto. Yn sgil marwolaeth Kubiyovych yn 1985, penodwyd Struk yn brif olygydd y gwyddoniadur yn 1989, a chyhoeddwyd y tair cyfrol olaf yn 1993.[1]

Barddoni a chyfieithu

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd Struk ei farddoniaeth wreiddiol yn y cylchgronau Suchasnist, Pivnichne Siaivo, a Nova Poeziya. Cyhoeddwyd casgliad o'i gerdi, Gamma Sigma, yn 1963. Cyfieithodd hefyd farddoniaeth Lina Kostenko a rhyddiaith Vasyl Stefanyk i'r Saesneg, a gweithiau gan Walter Patric Kinsella a Ted Galay i'r Wcreineg.[1]

Aelodaethau a gweithgareddau

[golygu | golygu cod]

Roedd Struk yn hynod o weithgar yn y gymuned Wcreinaidd yng Nghanada. O'r 1950au i'r 1970au, roedd Struk yn gyfarwyddwr cerdded a mynydda yn y gymdeithas sgowtio Plast. Roedd yn aelod o frawdoliaeth y Burlaky, sy'n gysylltiedig â'r Plast. Yn fuan wedi iddo symud i Toronto, sefydlodd clwb llyfrau Knyho-Kliub. Ymunodd â'r clwb cymunedol Cosbild, a gwasanaethodd yn llywyd y sefydliad hwnnw yn 1996–97.[1]

Daeth Struk yn aelod o fwrdd y CFUS yn 1985, a fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr Swyddfa Gyhoeddi'r CIUS yn Toronto yn 1990. Gwasanaethodd yn is-lywydd Cymdeithas Slafegwyr Canada yn 1989–90 a llywydd yn 1991–92. Ymaelododd Struk â NTSh yn 1988, a fe'i etholwyd yn llywydd y gymdeithas yn Sarcelles, Ffrainc, yn 1997. Yno yn 1998 fe sefydlodd y Sefydliad dros Astudiaethau Wcreinaidd yn Ffrainc. Etholwyd yn aelod tramor o Academi Gwyddorau'r Wcráin yn 1992. Derbyniodd Wobr CFUS am Gyrhaeddiad Uchaf yn Astudiaethau Wcreinaidd yn 1993. Fe'i enwyd yn Wcreiniad y Flwyddyn gan y Gymdeithas Dechnolegol Wcreinaidd yn Pittsburgh yn 1997.[1]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd ddwywaith, a chafodd dri phlentyn gyda'i wraig gyntaf. Bu farw ar 19 Mehefin 1999 o drawiad ar y galon yn ysbyty Bogenhausen ym München, yr Almaen, yn 59 oed. Fe'i amlosgwyd yn y ddinas honno yn sgil angladd yng Nghapel yr Ecsarch Catholig Wcreinaidd ar 22 Mehefin.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) Andrij Kudla Wynnyckyj, "Obituary: Danylo Husar Struk, encyclopedia editor, university professor, poet, translator, 59 Archifwyd 2008-07-09 yn y Peiriant Wayback", The Ukrainian Weekly (27 Mehefin 1999). Adalwyd ar 31 Mai 2019. (Dolen PDF.)