Daisetz Teitaro Suzuki
Daisetz Teitaro Suzuki | |
---|---|
Ganwyd | 鈴木 貞太郎 18 Hydref 1870 Hondamachi |
Bu farw | 12 Gorffennaf 1966 o bowel obstruction Kamakura, St. Luke's International Hospital |
Dinasyddiaeth | Japan |
Addysg | Uwch Ddoethor |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, athronydd, academydd, seicolegydd, ysgrifennwr |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Awakening of Faith in the Mahayana |
Priod | Beatrice Erskine Lane Suzuki |
Gwobr/au | Urdd Diwylliant, Person Teilwng mewn Diwylliant |
Roedd Daisetz Teitaro Suzuki (Siapaneg: 鈴木 大拙 Suzuki Daisetsu) (18 Hydref 1870 – 22 Gorffennaf 1966) yn awdur enwog llyfrau ac ysgrifau ar Fwdhaeth a Zen a oedd yn allweddol mewn creu diddordeb yn Zen yn y Gorllewin.
Ganwyd fel Teitarō Suzuki yn Hondamachi, Kanizawa, Rhaglawiaeth Ishikawa, yn bedwarydd mab i'r ffisigwr Ryojun Suzuki (Newidiodd ei enw wrth ddod yn fynach Zen). Serch cael ei eni i'r dosbarth Samurai, roedd y dosbarth hwnnw wedi edwino ar ôl cwymp ffiwdaliaeth, a chafodd Suzuki ei fagu gan ei fam mewn tlodi ar ôl i'w dad farw. Pan ddaeth yn ddigon hen i bwyllo ar ei ffawd o gael ei eni mewn sefyllfa mor druan, dechreuodd i chwilio am atebion mewn ffurfiau gwahanol o grefydd. Cafodd ei ddeall athronyddol miniog hi'n anodd i dderbyn rhai o'r cosmolegau a gwrddodd.
Fe wnaeth ei frawd, a oedd yn gyfreithiwr, dalu am ei fywyd ac addysg ym Mhrifysgol Waseda, Tokyo. Yn ystod yr amser hwnnw (1891) dechreuodd hefyd astudiaethau ysbrysol yn Engaku-ji, Kamakura, dan Kosen Roshi i gychwyn ac wedyn -ar ôl marw Kosen- gyda Soyen Shaku. Roedd Soyen yn fynach Zen eithriadol. Dan Soyen Shaku roedd astudiaethau Suzuki yn eu hanfod yn fewnol ac aneiriol, gan gynnwys cyfnodau hir o eistedd mewn myfyrdod (zazen). Mynnodd y dasg yr hyn a ddisgrifiai Suzuki fel pedair mlynedd o frwydr feddyliol, gorfforol, foesol a ddeallusol.
Yn ystod ei gyfnodau o hyfforddiant yn Engaku-ji roedd Suzuki'n byw bywyd mynach. Disgrifiodd y bywyd hwnnw a'i brofiadau yn Kamakura yn ei lyfr The Training of the Zen Buddhist Monk. Cafodd Suzuki ei wahodd gan Soyen i ymweld â'r Unol Daleithiau yn y 1890au. Gweithredodd fel cyfieithydd i'r Saesneg ar lyfr gan Soyen ym 1906. Er iddo eisoes gyfieithu rhai testunau hynafol i'r Saesneg, roedd cyfieithu llyfr Soyen yn fwy o ddechrau ar ei yrfa fel ysgrifennwr.
Tra oedd yn ifanc fe wnaeth Suzuki dysgu Tsieineeg, Sanscrit, Pali, a sawl iaith Ewropeaidd. Roedd Soyen Shaku'n un o'r darlithwyr gwadd i World Parliament of Religions yn Chicago ym 1893. Daeth ysgolhaig Almeinig oedd yn byw yn Illinois, Dr. Paul Carus, at Soyen Shaku i ofyn ei gymorth i gyfieithu a pharatoi llenyddiath ysbrygol y Dwyrain i'w cyhoeddi yn y Gorllewin. Fe wnaeth Soyen gymeradwyo ei ddisgybl i wneud y gwaith. Fel canlyniad roedd Suzuki'n byw yng nghartref Dr. Carus a gweithio gyda fo, yn gyntaf i gyfieithu'r Tao Te Tsing clasurol o'r Tsieineeg hynafol. Tra'n byw yn Illinois dechreuodd ei waith cynnar Outlines of Mahayana Buddhism.
Roedd Carus ei hun wedi ysgrifennu llyfr ar Fwdhaeth gyda'r teitl The Gospel of Buddha. Ysgrifennodd Soyen Shaku ragarweiniad iddo, ac fe'i cyfieithwyd i'r Siapaneg gan Suzuki.
Heblaw byw yn yr Unol Daleithiau, teithiodd Suzuki trwy Ewrop cyn dod yn athro cadeiriol yn Japan. Ym 1911 fe briododd Beatrice Erskine Lane. Buont yn byw mewn bwthyn ar dir Engaku-ji tan 1919 pan symudasant i Kyoto, lle dechreuodd Suzuki broffesoriaeth ym Mhrifysgol Otani ym 1921. Tra oedd yn Kyoto ymwelai â'r Athro Shinichi Hisamatsu, ysgolhaig Bwdhaeth Zen enwog, a thrafod Bwdhaeth Zen gyda'i gilydd yn nhemlau Shunkoin a Myoshinji.
Hefyd ym 1921 sefydlodd Suzuki a'i wraig Gymdeithas Fwdhaeth y Dwyrain; mae'r gymdeithas yn cynnal darlithoedd ar Fwdhaeth Mahayana a chyhoeddi cylchgrawn ysgolheigaidd, The Eastern Buddhist. Roedd Suzuki'n dal i gynnal ei gysylltiadau yn y Gorllewin ac, er enghraifft, fe draddododd bapur yn y World Congress of Faiths ym 1936, ym Mhrifysgol Llundain (bu'n broffesor cyfnewid yn ystod y flwyddyn honno).
Heblaw dysgu ymarfer a hanes Bwdhaeth Zen (neu Ch'an), roedd Suzuki'n arbenigwr ar yr athroniaeth kegon- yr hyn a ystyriodd yn esboniad deallusol o'r profiad Zen.
Roedd Suzuki'n dal yn broffesor yng nghanol yr 20g, ac ysgrifennodd rhai o'r rhagarweiniadau ac archwiliadau enwocaf ar Fwdhaeth, yn enwedig yr ysgol Tsieineaidd Chan (er iddo gyfeirio ati dan yr enw "Zen", yr ynganiad Japaneaidd o'r gair). Aeth ar daith o ddarlithio i brifysgolion yr Unol Daleithiau ym 1951, a bu'n athro ym Mhrifysgol Columbia rhwng 1952 a 1957.
Roedd gan Suzuki ddiddordeb arbennig mewn y canrifoedd lluniol ei draddodiad Bwdhydd, yn Tsieina. Mae llawer o ysgrifau Suzuki yn y Saesneg yn ymwneud â chyfieithiadau o destunau Chan y Biyan Lu a'r Wumenguan, sy'n cofnodi arddulliau dysgu a geiriau'r meistri clasurol Tsieineaidd. Roedd ganddo hefyd ddiddordeb mewn sut gwnaeth y traddodiad yma, ar ôl iddo gyrraedd Japan, ddylanwadu ar gymeriad a hanes Japan, ac ysgrifennodd amdano yn Saesneg yn Zen and Japanese Culture.
Ysgrifennodd Suzuki hefyd gyfieithiad o'r Lankavatara Sutra a sylwebaeth ar ei derminoleg Sanskrit.
Mae Suzuki'n aml yn cael ei gysylltu gydag athroniaeth Ysgol Kyoto, ond dydy e ddim yn cael ei ystyried yn aelod swyddogol. Roedd gan Suzuki hefyd ddiddordeb mewn traddodiadau Bwdhydd eraill ac ysgrifennodd lyfr ar Fwdhaeth Shin. Cymerai hefyd ddiddordeb mewn cyfriniaeth Gristnogol.
Mae llyfrau D.T. Suzuki wedi cael eu darllen a'i sylwi arnynt gan llawer o bwysigion enwog y byd. Un enghraifft ydy An Introduction to Zen Buddhism, sydd yn cynnwys sylwebaeth 30 o dudalennau o hyd gan Carl Jung. Roedd Suzuki o'r farn fod Bwdhaeth Zen (neu Ch'an) wedi amsugno athroniaeth Taoaeth Tsieina (yn wir, cafodd Zen ei ddatblygu yn Tsieina). Credai fod gan bobloedd y Dwyrain Pell sensitifrwydd awchlym i natur o'u cymharu â phobloedd Ewrop a Gogledd India. Credai hefyd fod pob crefydd yn organeb sy'n gallu newid neu ddatblygu. Ym marn Suzuki, satori (deffroad) Zen oedd cyrchnod hyfforddiant y traddodiad, ond ei fod yn wahanol i draddodiad Bwdhaeth India. Yn India roedd traddodiad y "cardotyn sanctaidd", ond yn ystod canrifoedd ei ddatblygiad yn Tsieina fe wnaeth amgylchiadau cymdeithasol arwain at sefydliad temlau lle bu rhaid i'r mynachod wneud tasgau cyffredin, megis coginio, garddio, adeiladu, gwaith saer, gwaith meddyg, gwaith howsgiper, a gweinyddiaeth. Fel canlyniad roedd rhaid i'r "goleuo" Zen fod yn rhywbeth a allai sefyll i fyny'n dda i ofynion a lesteiriannau bywyd beunyddiol.
Er gwaethau ymdrechion arloesol Suzuki, heddiw mae weithiau'n cael ei ystyried yn ffigur ymylol, nad oedd nac yn fynach Zen ffurfiol nac yn hanesydd difrifol. Gallai hyn fod yn farn eitha annheg, gan fod yna ysgolheigion hygred y Gorllewin, megis Heinrich Dumoulin, sydd wedi cydnabod eu dyled i waith cyhoeddedig Suzuki. Serch hynny, mae syniad Suzuki o Fwdhaeth Zen, a fernir heddiw i fod yn ddarluniad delfrydedig, gyda'i amhendantrwydd tuag at ymerodrolaeth Japaneaidd rhwng y ddwy ryfel, wedi dod ill dau dan feirniadaeth.