Zazen

Oddi ar Wicipedia
Zazen
MathYmarfer ysbrydol, myfyrdod, sitting Edit this on Wikidata
CrefyddZen edit this on wikidata
Enw brodorol坐禪 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mynach o'r enwad Zen Soto yn ymarfer zazen wrth gardota

Mae Zazen (Japaneg: 坐禅; Tseineg "zuochan" [Pinyin] neu "tso-chan" [Wade-Giles]) yn rhan hanfodol o Fwdhaeth Zen. Nod zazen yw eistedd ac agor "llaw'r meddwl".

Zazen: sut i eistedd[golygu | golygu cod]

Yn eistedd mewn safle zazen, gyda'r llygaid wedi eu canoli ar y llawr pren caled, mae'r caboledd yn adlewyrchu'r eira sy'n syrthio tu allan i'r ffenest. Eisteddir ar gadair neu glustog. Mae'r person yn canolbwyntio ar ei anadl yn mynd drwy ei gorff ac yn ymwybodol o'r presennol.

Trefnir y coesau mewn ystum (neu 'asana') y gellir ei gynnal yn gyfforddus. Yn yr ystum hanner-alaw'r dŵr, gosodir y coes chwith ar y morddwyd dde (neu vice versa). Yn yr ystum alaw'r dŵr (llawn), gosodir y traed ar y morddwydydd cyferbyniol. Yn yr ystum Myanmar, torchir y traed gyda'i gilydd yn agos i'r afl. Gellir hefyd eistedd yn syml gyda'r coesau wedi eu torchi yn agos i'r corff, ond rhaid sicrhau fod y pwysau'n cael eu dosbarthu'n gyfartal ar dri phwynt: y ddau ben-glin ar y llawr a'r ffolennau ar y glustog gron. Ar gadair, cedwir y pen-gliniau wedi eu neilltuo tua'r un lled â'r ysgwyddau, gyda'r traed wedi eu plannu'n sad ar y llawr.

Eisteddir yn gefnsyth ond heb fod yn anystwyth. Ymestynir asgwrn y cefn a'i sythu, gan ei gadw'n uniawn naturiol a chanoli'r cydbwysedd yn yr abdomen isaf. Brest yn ôl, stumog i mewn. Dychmygir llinell seth trwy'r trwyn i'r bogail. Gellir gwegian y corff yn ysgafn o'r chwith i'r dde nes cyrraedd yn naturiol pwynt llonyddwch ar y glustog. Rhaid tynhau'r hara, sef y rhan o'r bol dwy fodfedd dan y bogail.

Rhaid edrych ar y llawr tua thair i bedair troedfedd o flaen y corff, gyda'r llygaid nac yn lled agored nac ar gau.

Gosodir y ddwylo ar arffed gydag un ohonynt yn gledr-i-fyny a'r llaw arall (cledr-i-fyny) yn gorwedd ar y llaw isaf, gyfa phennau'r bodiau'n cyffwrdd ag ei gilydd (yn ysgafn) a ffurfio hirgylch llorwedd (gweler y llun uchod). Dyma mwdra zazen, lle mae popeth yn cael ei uno. Rhoddir ochrau'r bysedd bach yn erbyn yr abdomen, rhai modfeddi islaw'r bogail i gydgordio canol y cydbwysedd gyda'r mwdra. Rhoddir y canolbwyntiad yno, neu ar y talcen rhwng y llygaid pan ddaw blinder.

Anadlu[golygu | golygu cod]

Cymerir tri anadliad, gan dynnu'r anadl gyda'r stumog yn ehangu yn lle ymledu'r brest, yna anadlir allan yn llawn. Gadewir i'r anadl setlo i mewn i'w rythm naturiol. Gyda'r ystum corfforol priodol bydd yr anadlu'n llifo'n naturiol i mewn i'r abdomen isaf.

Eisteddir yn llonydd a dechrau cyfrif yr anadliadau, 1 wrth dynnu anadl, 2 wrth anadlu allan, etc hyd 10, yna dechrau o'r newydd. Nid yw cyrraedd 10 yn bwysig, ac mae dechreuwyr yn colli'r cyfrif yn aml, ond dal ati.

Rhaid bod yn ymwybodol am bopeth: y cyfrif, yr anadlu, y synau a'r aroglau a'r teimladau o gwmpas. Gadewir i'r meddyliau dod a mynd heb eu dilyn. Ar ddiwedd y sesiwn gellir rhwyfo'r corff yn ysgafn o'r dde i'r chwith. Ymestynir y coesau gan wneud yn sicr bod teimlad ganddynt cyn sefyll.

Awgrymir y dylid ymarfer zazen yn beunyddiol am o leiaf 10 i 15 munud (gwell yw hanner awr).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]