Cyrn y Brain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Crug crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Cyrn y Brain, Bwlch yr Oernant, yng nghymuned Llandegla, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ228487. Fe'i codwyd ar lethrau moel o'r un enw - un o fynyddoedd y Berwyn. Ceir nifer helaeth o henebion tebyg ar yr un llethr. Mae'n 18 metr mewn diamedr ac yn ddwy fetr o uchder.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE270.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato