Neidio i'r cynnwys

Cyngor Bwrdeistref Llanelli

Oddi ar Wicipedia
Cyngor Bwrdeistref Llanelli
ArwyddairYMLAEN LLANELLI
Mathdosbarth llywodraeth leol yng Nghymru Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.679°N 4.163°W Edit this on Wikidata
Map
Arfais Cyngor Dosbarth Ceredigion

Un o chwech ardal llywodraeth leol yn Nyfed, gorllewin Cymru, rhwng 1974 a 1996 oedd Cyngor Bwrdeistref Llanelli. Roedd y cyngor lleol yn gweinyddu rhannau o Gwm Gwendraeth ac ardal drefol Llanelli. Fe'i crëwyd yn 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972,

Bwrdeistref Llanelli yng Nghymru

Pencadlys y cyngor oedd Tŷ Elwyn, Sgwâr Neuadd y Dref, Llanelli.

Diddymwyd yr awdurdod yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996 pan ddaeth yr ardal dan weinyddiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin. Roedd hyn yn amhoblogaidd iawn gyda nifer o fewn y Cyngor ac ystyriodd y Prif Weithredwr, Mr. Bryn Parry-Jones, BA, MA (Oxon) geisio ffurfio Cyngor am ardaloedd Dyffryn Lliw, Abertawe ac ardal weinyddol Llanelli.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato