Cyngor Dosbarth De Sir Benfro
| Arwyddair | WE SERVE AS ONE |
|---|---|
| Math | dosbarth llywodraeth leol yng Nghymru |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
Un o chwech ardal llywodraeth leol yn Nyfed, Gorllewin Cymru, rhwng 1974 a 1996 oedd Cyngor Dosbarth De Sir Benfro.

Y rhannau canlynol o sir weinyddol Sir Benfro:[1][2]
- Ardal Wledig Arberth
- Ardal Drefol Arberth
- Bwrdeistref Ddinesig Penfro (a oedd yn cynnwys Doc Penfro)
- Dosbarth Gwledig Penfro
- Bwrdeistref Ddinesig Dinbych-y-pysgod
Ym 1981, trosglwyddwyd cymunedau Bletherston, Clarbeston, Llandeilo Llwydarth, Gorllewin Llandysilio, Llangolman, Llanycefn, Llys y Fran, Maenclochog, Mynachlog-ddu, New Moat a Vorlan i Cyngor Dosbarth Preseli.
Lleolwyd y cyngor ym Mharc Llanion yn Noc Penfro. Adeiladwyd yr adeilad ym 1904 fel rhan o Farics Llanion, ac fe'i prynwyd gan yr hen Gyngor Bwrdeistref Penfro ar ddechrau'r 1970au i wasanaethu fel ei bencadlys, ychydig flynyddoedd yn unig cyn i'r cyngor hwnnw gael ei ddiddymu.[3][4][5]
Ar 1 Ebrill 1996 diddymwyd yr ardal gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, gan uno â'i chymydog Preseli i ddod yn sir ailgyfansoddedig yn Sir Benfro.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Local Government Act 1972, deddfwriaeth.gov.uk; adalwyd 25 Mehefin 2024
- ↑ The Districts in Wales (Names) Order 1973, deddfwriaeth.gov.uk; adalwyd 25 Mehefin 2024
- ↑ 1971 Telephone Directory: Pembroke Borough Council - Administration, Municipal Offices, Bush Street, Pembroke Dock / 1972 Telephone Directory: Pembroke Borough Council - All Departments, Llanion Barracks, Pembroke Dock
- ↑ "Welsh Office". London Gazette (46263): 4706. 11 April 1974. https://www.thegazette.co.uk/London/issue/46263/page/4706. Adalwyd 31 July 2022. "...at the offices of South Pembrokeshire District Council, Llanion Park, Pembroke Dock."
- ↑ "Dyfed County Council". London Gazette (54350): 4124. 20 March 1996. https://www.thegazette.co.uk/London/issue/54350/page/4124. Adalwyd 31 July 2022.
- ↑ "Local Government (Wales) Act 1994", deddfwriaeth.gov.uk, The National Archives, 1994 c. 19, adalwlyd 3 Mawrth 2026