Cyngor Bwrdeistref Dinefwr
| Arwyddair | DIOGEL DAN DDINEFWR |
|---|---|
| Math | dosbarth llywodraeth leol yng Nghymru |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Gaerfyrddin |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.883°N 4.013°W |
![]() | |
Un o chwech ardal llywodraeth leol yn Nyfed, Gorllewin Cymru, rhwng 1974 a 1996 oedd Cyngor Bwrdeistref Dinefwr, a grëwyd yn 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Roedd gan yr ardal statws bwrdeistref, gan ganiatáu i gadeirydd y cyngor gymryd y teitl "maer".

Roedd ei bencadlys yn Llandeilo. Y prif trefi eraill dan ei weinyddiaeth oedd Llanymddyfri a Rhydaman. Mae adeiladau'r pencadlys yn dal i gael eu defnyddio gan Gyngor Sir Gaerfyrddin. Cafodd yr ardal ei furffio yn 1974 o bum hen ddosbarth o sir weinyddol Sir Gaerfyrddin, a ddiddymwyd ar yr un pryd:[1][2]
- Dosbarth Trefol Rhydaman
- Dosbarth Trefol Cwmaman
- Dosbarth Wledig Llandeilo
- Dosbarth Trefol Llandeilo
- Bwrdeistref Ddinesig Llanymddyfri
Diddymwyd yr awdurdod yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996 pan ddaeth yr ardal dan weinyddiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Eiddo
[golygu | golygu cod]Roedd pencadlys y cyngor yn Swyddfeydd y Cyngor yn 30 Crescent Road, Llandeilo, a fu gynt yn swyddfeydd Cyngor Dosbarth Gwledig Llandeilo. Roedd hefyd yn defnyddio Neuadd y Dref Rhydaman fel swyddfa ardal.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Local Government Act 1972, deddfwriaeth.gov.uk; adalwyd 25 Mehefin 2024
- ↑ The Districts in Wales (Names) Order 1973, deddfwriaeth.gov.uk; adalwyd 25 Mehefin 2024
