Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol

Oddi ar Wicipedia
Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol
Enghraifft o'r canlynolcytundeb, offeryn hawliau dynol rhyngwladol, offeryn hawliau dynol rhyngwladol craidd Edit this on Wikidata
Rhan oPenderfyniad 2200 A gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Cyfamodau Rhyngwladol am Hawliau Dynol, Mesur Hawliau Dynol Rhyngwladol, cyfraith hawliau dynol rhyngwladol Edit this on Wikidata
IaithTsieceg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1 Ionawr 1967 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 Rhagfyr 1966 Edit this on Wikidata

Mae'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) yn gytundeb amlochrog a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (GA) ar 16 Rhagfyr 1966 o fewn Cynnig 2200A (XXI), a ddaeth i rym ar 3 Ionawr 1976. Mae'n ymrwymo ei bartïon i weithio tuag at roi hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol (ESCR) i'r Tiriogaethau Anhunanlywodraethol ac Ymddiriedolaethau (Non-Self-Governing and Trust Territories) ac unigolion, gan gynnwys hawliau llafur a'r hawl i iechyd, yr hawl i addysg, a'r hawl i safon byw ddigonol. Yng Ngorffennaf 2020, roedd gan y Cyfamod 171 o bartïon.[1] Mae pedair gwlad arall, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, wedi arwyddo'r Cyfamod ond heb ei gadarnhau.

Mae'r ICESCR (a'i Brotocol Dewisol) yn rhan o'r Mesur Hawliau Dynol Rhyngwladol, ynghyd â'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (UDHR) a'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR), gan gynnwys y Protocolau Dewisol cyntaf ac ail.[2]

Mae'r Cyfamod yn cael ei fonitro gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol.[3]

Sefydlu[golygu | golygu cod]

Mae ICESCR yn tarddu o'r un broses a arweiniodd at y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.[4] Roedd "Datganiad ar Hawliau Hanfodol Dyn" wedi'i gynnig yng Nghynhadledd San Francisco 1945 a arweiniodd at sefydlu'r Cenhedloedd Unedig, a rhoddwyd y dasg i'r Cyngor Economaidd a Chymdeithasol i'w ddrafftio.[2] Yn gynnar yn y broses, rhannwyd y ddogfen yn ddatganiad yn nodi egwyddorion cyffredinol hawliau dynol, a chyfamod a oedd yn cynnwys ymrwymiadau rhwymol. Esblygodd y cyntaf i'r UDHR ac fe'i mabwysiadwyd ar 10 Rhagfyr 1948.[2]

Parhaodd y gwaith drafftio ar y confensiwn, ond cafwyd gwahaniaethau sylweddol rhwng aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar bwysigrwydd cymharol hawliau sifil a gwleidyddol negyddol yn erbyn hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cadarnhaol.[5] Yn y pen draw, achosodd y rhain i'r confensiwn gael ei rannu'n ddau gyfamod ar wahân, "un i gynnwys hawliau sifil a gwleidyddol a'r llall i gynnwys hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol." [6] Byddai'r ddau gyfamod yn cynnwys cymaint o ddarpariaethau tebyg â phosibl, ac fe'u hagorwyd i'w llofnodi ar yr un pryd.[6] Byddai pob un hefyd yn cynnwys erthygl ar hawl pobloedd i hunanbenderfyniad.[7]

Rhaid i'r Gwladwriaethau Cyfrannog yn y Cyfamod presennol, gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldeb am weinyddu Tiriogaethau Anhunanlywodraethol a Thiriogaethau Ymddiriedol, hybu gwireddu'r hawl i hunanbenderfyniad, a rhaid iddynt barchu'r hawl honno, yn unol â darpariaethau Siarter y Cenhedloedd Unedig.[8]

Daeth y ddogfen gyntaf yn Gyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, a'r ail yn Gyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol. Cyflwynwyd y drafftiau i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i'w trafod yn 1954, a'u mabwysiadu ym 1966.[9]

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Mae'r Cyfamod yn dilyn strwythur yr UDHR a'r ICCPR, gyda rhagymadrodd a dau-ddeg-un o erthyglau, wedi'u rhannu'n bum rhan:

Mae Rhan 1 (Erthygl 1) yn cydnabod yr hawl i holl bobloedd y byd i hunanbenderfynu, gan gynnwys yr hawl i "benderfynu'n rhydd ar eu statws gwleidyddol",[10] dilyn eu nodau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a rheoli a chael gwared ar eu hadnoddau eu hunain. Mae'n cydnabod hawl negyddol pobl i beidio â chael eu hamddifadu o gynhaliaeth (yr hyn sy'n eu cynnal),[11] ac yn gosod rhwymedigaeth ar y partïon hynny sy'n dal i fod yn gyfrifol am diriogaethau nad ydynt yn hunanlywodraethol a thiriogaethau ymddiriedolaethau, sef cytrefi (colonies) i annog a pharchu eu hunanbenderfyniad.[12]

Mae Rhan 2 (Erthyglau 2–5) yn sefydlu'r egwyddor o "wireddiad cynyddol" (progressive realisation: gweler isod.) Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r hawliau gael eu cydnabod “heb wahaniaethu o unrhyw fath o ran hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall”.[13] Dim ond yn ôl y gyfraith y gellir cyfyngu'r hawliau, mewn modd sy'n gydnaws â natur yr hawliau, a dim ond at ddiben "hyrwyddo lles cyffredinol mewn cymdeithas ddemocrataidd".[14]

Mae Rhan 3 (Erthyglau 6–15) yn rhestru'r hawliau eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys hawliau i

  • gwaith, o dan "amodau cyfiawn a ffafriol",[15] gyda'r hawl i ffurfio ac ymuno ag undebau llafur (Erthyglau 6, 7, ac 8);
  • nawdd cymdeithasol, gan gynnwys yswiriant cymdeithasol (Erthygl 9);
  • bywyd teuluol, gan gynnwys absenoldeb rhiant â thâl ac amddiffyn plant (Erthygl 10);
  • safon byw ddigonol, gan gynnwys bwyd, dillad a llety digonol, a "gwella amodau byw yn barhaus" (Erthygl 11);
  • iechyd, yn benodol "y safon uchaf o iechyd corfforol a meddyliol" (Erthygl 12);
  • addysg, gan gynnwys addysg gynradd am ddim i bawb, addysg uwchradd sydd ar gael yn gyffredinol ac addysg a ddylai fod yr un mor hygyrch. Dylid cyfeirio hyn at "ddatblygiad llawn y bersonoliaeth ddynol a'r ymdeimlad o urddas",[16] a galluogi pob person i gymryd rhan yn effeithiol mewn cymdeithas (Erthyglau 13 a 14);
  • cymryd rhan mewn bywyd diwylliannol (Erthygl 15).

Mae Rhan 4 (Erthyglau 16–25) yn rheoli adrodd yn ôl a monitro'r Cyfamod a'r camau a gymerir gan y partïon i'w roi ar waith. Mae hefyd yn caniatáu i'r corff monitro – yn wreiddiol Cyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig – sydd bellach yn Bwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol wneud argymhellion cyffredinol i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar fesurau priodol i wireddu'r hawliau (Erthygl 21).

Mae Rhan 5 (Erthyglau 26–31) yn ymwneud â'r Cyfamod: rheoli sut mae'n cael ei gadarnhau, sut mae'n dod i rym, a sut i'w ddiwygio.

     cenhedloedd sydd wedi llofnodi      cenhedloedd sydd wedi llofnodi, ond heb gadarnhau      cenhedloedd nad ydynt wedi arwyddo

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "UN Treaty Collection: International Covenant on Economic, Social and Cultural Rights". UN. 3 January 1976.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Fact Sheet No.2 (Rev.1), The International Bill of Human Rights". UN OHCHR. June 1996. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 March 2008. Cyrchwyd 2 June 2008.
  3. "Committee on economic, social and cultural rights". www.ohchr.org.
  4. "International bill of human rights". lawteacher.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 August 2014.
  5. Sieghart, Paul (1983). The International Law of Human Rights. Oxford University Press. t. 25.
  6. 6.0 6.1 United Nations General Assembly Resolution 543, 5 February 1952.
  7. United Nations General Assembly Resolution 545, 5 February 1952.
  8. International Covenant on Economic, Social and Cultural Rights, Part I, Erthygl 1, Paragraph 3.
  9. Penderfyniad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 2200, 16 Rhagfyr 1966.
  10. ICESCR, Erthygl 1.1
  11. ICESCR, Erthygl 1.2
  12. ICESCR, Erthygl 1.3
  13. ICESCR, Erthygl 2.2
  14. ICESCR, Erthygl 4
  15. ICESCR, Erthygl 7
  16. ICESCR, Erthygl 13.1

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]