Yr hawl i fwyd

Oddi ar Wicipedia
Yr hawl i fwyd
Enghraifft o'r canlynolhawliau dynol, hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Edit this on Wikidata
Mathhawliau dynol Edit this on Wikidata

Mae'r hawl i fwyd yn un o'r hawliau dynol sy'n diogelu hawl pobl i fwydo eu hunain gydag urddas, gan awgrymu bod digon o fwyd ar gael, bod gan bobl y modd i'w gael, a'i fod yn diwallu anghenion dietegol yr unigolyn yn ddigonol. Mae'n sicrhau'r hawl i fod yn rhydd rhag newyn, ansicrwydd bwyd a diffyg maeth.[1] Nid yw'r hawl i fwyd yn awgrymu bod rhwymedigaeth ar lywodraethau i ddosbarthu bwyd am ddim i bawb sydd ei eisiau, na hawl i gael ei fwydo. Fodd bynnag, os caiff pobl eu hamddifadu o fynediad at fwyd am resymau y tu hwnt i'w rheolaeth, er enghraifft, oherwydd eu bod yn y ddalfa, ar adegau o ryfel neu ar ôl trychinebau naturiol, mae'r hawl yn ei gwneud yn ofynnol i'r llywodraeth ddarparu bwyd yn uniongyrchol.[2]

Mae'r hawl yn deillio o'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol[2] a oedd â 170 o wladwriaethau yn Ebrill 2020 yn ei gymeradwyo.[3] Mae gwladwriaethau sy'n llofnodi'r cyfamod yma'n cytuno i gymryd camau hyd at yr uchafswm o'u hadnoddau sydd ar gael i gyflawni'n raddol yr hawl i fwyd digonol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.[4][1] Mewn cyfanswm o 106 o wledydd mae'r hawl i fwyd yn berthnasol naill ai trwy drefniadau cyfansoddiadol neu trwy gyfreithiau amrywiol a chytundebau rhyngwladol lle mae'r hawl i fwyd wedi'i ddiogelu.[5]

Yn Uwchgynhadledd Bwyd y Byd 1996, ailddatganodd llywodraethau'r hawl i fwyd ac ymrwymo i haneru nifer y newynog a'r rhai â diffyg maeth o 840 i 420 miliwn erbyn 2015. Fodd bynnag, mae'r nifer wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, yn hytrach na lleihau, gan gyrraedd record (yn 2009) o fwy nag 1 biliwn o bobl sy'n dioddef o ddiffyg maeth ledled y byd.[1] Ar ben hynny, mae'r nifer sy'n dioddef o newyn cudd ee diffyg maeth yn cyfateb i dros 2 biliwn o bobl ledled y byd.[6]

Mae'r Fenter Mesur Hawliau Dynol (The Human Rights Measurement Initiative)[7] yn mesur yr hawl i fwyd mewn gwledydd ledled y byd, yn seiliedig ar lefel eu hincwm.[8]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae yna wahaniaeth traddodiadol rhwng dau fath o hawliau dynol: ar y naill law ceir hawliau negyddol neu haniaethol sy'n cael eu parchu gan ddiffyg ymyrraeth. Ar y llaw arall, ceir hawliau cadarnhaol neu bendant sydd angen adnoddau i'w gwireddu. Fodd bynnag, mae'n destun dadl heddiw a oes modd gwahaniaethu'n glir rhwng y ddau fath hyn o hawliau.[9]

Yn unol â hynny, gellir rhannu'r hawl i fwyd yn ddau: yr hawl negyddol i gael bwyd trwy eich gweithredoedd eich hun, a'r hawl gadarnhaol i gael bwyd os na all rhywun gael gafael arno.

Datblygiadau rhyngwladol o 1941 ymlaen[golygu | golygu cod]

Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o ddatblygiadau rhyngwladol sy'n berthnasol i sefydlu a gweithredu'r hawl i fwyd o ganol yr 20g ymlaen.[10]

"Rhyddid oddi wrth angen."

Yn ddiweddarach roedd y rhyddid hwn yn rhan o Siarter y Cenhedloedd Unedig 1945 (Erthygl 1(3)). [11]

“Mae gan bawb yr hawl i safon byw sy'n ddigonol ar gyfer iechyd a lles ei hun a'i deulu, gan gynnwys bwyd, dillad, tai a gofal meddygol a gwasanaethau cymdeithasol angenrheidiol, a'r hawl i sicrwydd mewn achos o ddiweithdra, salwch, anabledd, gweddwdod, henaint neu ddiffyg bywoliaeth arall mewn amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth" (Erthygl 25).
  • 1966 - Mae'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, yn ailadrodd y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol o ran yr hawl i safon byw ddigonol ac, yn cydnabod yr hawl i fod yn rhydd o newyn. Mae'r cyfamod, yn datgan bod partïon yn cydnabod:
"hawl pawb i safon byw ddigonol iddo'i hun a'i deulu, gan gynnwys bwyd digonol" (Erthygl 11.1) a "hawl sylfaenol pawb i fod yn rhydd o newyn." (Erthygl 11.2).
    • 1976 - Daeth y Cyfamod i rym.
    • 1987 – Sefydlu'r Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol i oruchwylio gweithrediad y Cyfamod a dechrau dehongliad mwy cyfreithiol o'r Cyfamod.
    • 1999 - Y Pwyllgor yn mabwysiadu Sylw Cyffredinol Rhif 12 'Yr Hawl i Fwyd Digonol', sy'n disgrifio'r amrywiol rwymedigaethau gwladol sy'n deillio o'r Cyfamod ynghylch yr hawl i fwyd.[12]
    • 2009 - Mabwysiadu'r Protocol Dewisol i'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, gan wneud yr hawl i fwyd yn weithredol ar lefel ryngwladol.
  • 1974 - Mabwysiadu'r Datganiad Cyffredinol ar Ddileu Newyn a Diffyg Maeth yng Nghynhadledd Bwyd y Byd.[13]
  • 1988 - Mabwysiadu'r hawl i fwyd yn y Protocol Ychwanegol i Gonfensiwn America ar Hawliau Dynol ym maes Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol ("Protocol San Salvador").
  • 1996 - Y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth (FAO) yn trefnu Uwchgynhadledd Bwyd y Byd 1996 yn Rhufain, gan arwain at Ddatganiad Rhufain ar Ddiogelwch Bwyd y Byd.[13]
    • 2004 - Yr FAO yn mabwysiadu'r Canllawiau Hawl i Fwyd, gan gynnig arweiniad i wladwriaethau ar sut i weithredu eu rhwymedigaethau ar yr hawl i fwyd. Dechreuwyd drafftio'r canllawiau o ganlyniad i Uwchgynhadledd Fwyd y Byd 2002.[2]
  • 2000 - Sefydlwyd mandad y Rapporteur Arbennig ar yr Hawl i Fwyd.[14]
  • 2000 - Mabwysiadu Nodau Datblygu'r Mileniwm, gan gynnwys Nod 1: i ddileu tlodi a newyn eithafol erbyn 2015.
  • 2012 - Mabwysiadir y Confensiwn Cymorth Bwyd o ganlyniad i'r Confensiwn Cymorth Bwyd (1985?), sy'n golygu mai hwn yw'r cytundeb rhyngwladol cyfreithiol rhwymol cyntaf ar gymorth bwyd.

Statws cyfreithiol[golygu | golygu cod]

Gwarchodir yr hawl i fwyd dan gyfraith hawliau dynol a dyngarol rhyngwladol.[2][15]

Cyfraith ryngwladol[golygu | golygu cod]

Mae'r hawl i fwyd yn cael ei gydnabod yn Natganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948 (Erthygl 25) fel rhan o'r hawl i safon byw ddigonol, ac mae wedi'i gynnwys yng Nghyfamod Rhyngwladol 1966 ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (Erthygl 11).[2] Mae Protocol Dewisol 2009 i'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol yn gwneud yr hawl i fwyd yn angenrheidiol ar lefel ryngwladol.[10] Yn 2012, mabwysiadwyd y Confensiwn Cymorth Bwyd: dyma gytundeb rhyngwladol cyfreithiol rwymol cyntaf ar gymorth bwyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Ziegler 2012: "What is the right to food?"
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Special Rapporteur on the Right to Food 2012a: "Right to Food."
  3. United Nations Treaty Collection 2012a
  4. International Covenant on Economic, Social and Cultural Rights 1966: article 2(1), 11(1) and 23.
  5. Knuth 2011: 32.
  6. Ahluwalia 2004: 12.
  7. "Human Rights Measurement Initiative – The first global initiative to track the human rights performance of countries". humanrightsmeasurement.org. Cyrchwyd 2022-03-09.
  8. "Right to food - HRMI Rights Tracker". rightstracker.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-09.
  9. Food and Agriculture Organization 2002: "The road from Magna Carta."
  10. 10.0 10.1 Special Rapporteur on the Right to Food 2010a: 4.
  11. 11.0 11.1 Ahluwalia 2004: 10.
  12. Committee on Economic, Social and Cultural Rights 1999.
  13. 13.0 13.1 Food and Agriculture Organization 2012b.
  14. Special Rapporteur on the Right to Food 2012a: "Mandate."
  15. Ahluwalia 2004: 10-12.