Crug crwn Y Shems

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Dau rug crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug crwn Y Shems (Saesneg: The Tumps), yng nghymuned Rudbaxton, Sir Benfro; cyfeiriad grid SM986208 - 175m i'r gogledd o Dŷ Ramswood. Mae'r enw Saesneg o'r un tarddiad a "thwmp-ath", sef gair arall am y crug.

Cofrestrwyd y crugiau hyn gan Cadw a chant eu hadnabod gyda'r rhif SAM: PE114.[1] Mae'r twmpath cyntaf yn 29 metr mewn diamedr ac yn fetr o uchder. Mae'r ail grug tua chan metr i'r dwyrain ohono.

Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb. Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato