Corwynt Ian
Corwynt Ian ar 28 Medi 2022. | |
Enghraifft o'r canlynol | Category 5 hurricane |
---|---|
Lladdwyd | 84 |
Rhan o | 2022 Atlantic hurricane season |
Dechreuwyd | 23 Medi 2022 |
Daeth i ben | 1 Hydref 2022 |
Gwladwriaeth | Ciwba, Unol Daleithiau America, Y Bahamas, y Deyrnas Unedig, Yr Iseldiroedd, Jamaica, Trinidad a Thobago, Feneswela, Colombia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Corwynt mawr a dinistriol a fesurai Categori 4 ar raddfa Saffir–Simpson oedd Corwynt Ian a darodd Ciwba a de-ddwyrain Unol Daleithiau America, yn bennaf taleithiau Fflorida a De Carolina, yn ystod tymor stormydd trofannol yr Iwerydd yn 2022. Hwn oedd y corwynt i achosi'r nifer fwyaf o farwolaethau yn Fflorida ers Corwynt Gŵyl Lafur ym 1935.[1]
Tarddodd Corwynt Ian o don drofannol a symudodd o arfordir Gorllewin Affrica ar draws canolbarth Cefnfor yr Iwerydd tuag at Ynysoedd y Gwynt. Aeth y don i mewn i Fôr y Caribî ar 21 Medi 2022, gan ddod â gwyntoedd cryf a glaw trwm i Drinidad a Thobago, Ynysoedd ABC, ac arfordir Feneswela a Cholombia.[2][3][4] Trodd yn storm bwysedd isel ar fore 23 Medi, a thrannoeth datblygodd ar ffurf storm drofannol, a enwid "Ian", wrth iddi neshau at Jamaica. Ymhen 24 awr, cryfhaodd yn sylweddol i Gategori 3 ar raddfa gorwyntoedd Saffir–Simpson, gan fwrw'r tir yng ngorllewin Ciwba. Achoswyd llifogydd a thoriadau trydan gan law'r corwynt, yn enwedig yn nhalaith Pinar del Río. Collodd Corwynt Ian dim ond ychydig o'i gryfder wrth groesi'r ynys, ac atgyfnerthodd wrth deithio dros dde-ddwyrain Gwlff Mecsico. Daeth Ian yn gorwynt Categori 4 ar 28 Medi 2022 wrth iddo symud tua arfordir gorllewinol Fflorida, a daeth i daro Ynys Cayo Costa ar anterth ei gryfder bron. Corwynt Ian yw un o'r rhai sydd yn dal safle 5 ar y rhestr o'r stormydd cryfaf i daro'r 48 o daleithiau'r Unol Daleithiau sydd yn cydffinio.[5] Wrth groesi gorynys Fflorida, gwanychodd y storm i statws storm drofannol cyn cyrraedd y môr unwaith eto a dychwelyd i statws corwynt, cyn symud dros Dde Carolina a chwalu.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Finch, Allison (3 Hydref 2022). "Florida faces grim reality: Hurricane Ian is deadliest storm in state since 1935". AccuWeather. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2022. Cyrchwyd 4 Hydref 2022.
- ↑ "T&T sees flooding, roofs blown off". Trinidad Express Newspapers (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Medi 2022. Cyrchwyd 25 Medi 2022.
- ↑ Douglas, Sean (23 Medi 2022). "Weather system passes over Trinidad and Tobago – Flooding, fallen trees, damage to homes". Trinidad and Tobago Newsday (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Medi 2022. Cyrchwyd 25 Medi 2022.
- ↑ Masters, Jeff; Henson, Bob (September 22, 2022). "Cat 4 Fiona steams toward Canada; Caribbean disturbance 98L a major concern". New Haven, Connecticut: Yale Climate Connections. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Medi 2022. Cyrchwyd 22 Medi 2022.
- ↑ Masters, Jeff; Henson, Bob (28 Medi 2022). "Ian smashes into southwest Florida with historic force". Yale Climate Connections (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Medi 2022. Cyrchwyd 29 Medi 2022.