Corseg
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Italo-Romance |
Label brodorol | corsu |
Rhan o | Ieithoedd rhanbarthol Ffrainc |
Enw brodorol | corsu |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | co |
cod ISO 639-2 | cos |
cod ISO 639-3 | cos |
Gwladwriaeth | Ffrainc, yr Eidal |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith yn perthyn i deulu yr Ieithoedd Romáwns a siardeir ar ynys Corsica a gogledd ynys Sardinia yw Corseg (Corsu neu Lingua Corsa).
Am gyfnod hir, Corseg oedd unig iaith ynys Corsica, cyn iddi ddod yn rhan o Ffrainc yn 1768. Yn 1990, toedd tua 50% o drigolion yr ynys, tua 127,000, yn medru rhywfaint o'r iaith, a tua 10% yn ei defnyddio fel iaith gyntaf. Mae hyn yn cynharu a thua 70% oedd yn medru rhywfaint o'r iaith yn 1980.
Dysgir rhywfaint o'r iaith yn yr ysgolion bellach; mae'n bwnc dewisol yn yr ysgolion uwchradd.
Statws
[golygu | golygu cod]Mae gan y Gorseg statws iaith ranbarthol yn Ffrainc, mewn rhestr a gyhoeddwyd gan lywodraeth Ffrainc. Mae'r iaith yn ymddangos ar arwyddion ffyrdd yng Nghorsica. Er hynny, nid yw'n iaith swyddogol yn Ffrainc, gan mai'r Ffrangeg yn unig sydd â'r statws hwnnw (ers 1992). Ar 17 Mai 2013, pleidleisiodd Cynulliad Corsica o blaid cynnig oedd yn gwneud y Gorseg yn iaith cyd-swyddogol, gyda'r Ffrangeg [2]. Fodd bynnag, ystyrir y cynnig yn un anghyfansoddiadol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
- ↑ "L'Assemblée de Corse se prononce pour la coofficialité du corse et du français", Nouvel Obs, 17 Mai 2013.
Wicipedia yn yr iaith co, y gwyddoniadur rhydd, agored ac am ddim! |
|