Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cors Goch Trawsfynydd)
Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd
MathSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd367.73 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.873721°N 3.931417°W, 52.83959°N 3.914936°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd yn ardal yn ne Gwynedd sy'n cynnwys rhan o Afon Eden a chors tua milltir i'r de o Lyn Trawsfynydd ac sydd wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 3 Awst 1995 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 367.73 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

O fewn y safle hwn ceir y boblogaeth hyfyw olaf yng Nghymru o fisglod perlog. Mae’r oedolion yn claddu’u hunain yn rhannol yn y gwaddodion ac yn hidlo’r dŵr am fwyd. Gallant fyw am gan mlynedd neu ragor. Mae larfa’r rhywogaeth hon yn byw fel parasitiaid ar dagellau eogiaid a brithyll, ac yn gwbwl ddibynnol arnynt. Gwelir ar y safle hefyd llyriad-y-dŵr arnofiol, sef planhigyn dŵr prin iawn a'r dyfrgi.

Math o safle[golygu | golygu cod]

Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]