Llyn Trawsfynydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Trawsfynydd, yn edrych i'r de
Pont droed ar draws Llyn Trawsfynydd

Mae Llyn Trawsfynydd yn gronfa ddŵr gerllaw pentref Trawsfynydd, Gwynedd, yng ngogledd Cymru (arwynebedd 4.8 km²). Crewyd y gronfa trwy adeiladu argae ar draws Afon Prysor. Y pwrpas gwreiddiol oedd darparu dŵr ar gyfer cynhyrchu trydan yng ngorsaf drydan Maentwrog yn 1928. Yn nes ymlaen defnyddiwyd y llyn i ddarparu dŵr ar gyfer atomfa Trawsfynydd.

Erbyn hyn nid yw'r atomfa yn cynhyrchu trydan mwyach, ac mae'n y broses o gael ei datgomisiynu, ond mae dŵr o'r llyn yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu trydan ym Maentwrog.

Mae pont droed gul yn croesi'r llyn yn y cornel de-ddwyreiniol, hanner milltir i'r gorllewin o'r A470. Mae'r bont ar agor i'r cyhoedd, er bod y llwybr cyhoeddus sy'n arwain ati yn dod i ben yn swyddogol ar lan y llyn.