Constantius Chlorus

Oddi ar Wicipedia
Constantius Chlorus
GanwydFlavius Constantius Edit this on Wikidata
250 Edit this on Wikidata
Dardania Edit this on Wikidata
Bu farw25 Gorffennaf 306 Edit this on Wikidata
Eboracum Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadFlavius Eutropius, Maximian Edit this on Wikidata
MamClaudia Crispina Edit this on Wikidata
PriodHelena o Gaergystennin, Flavia Maximiana Theodora Edit this on Wikidata
PlantCystennin I, Flavia Julia Constantia, Anastasia, Eutropia, Julius Constantius, Flavius Dalmatius, Flavius Hannibalianus Edit this on Wikidata
Llinachllinach Cystennin Edit this on Wikidata

Gaius Flavius Valerius Constantius (250306) oedd ymerawdwr Rhufain yn y gorllewin o 305 hyd 306. Cafodd y llysenw Chlorus (gwelw). Ef oedd tad yr ymerawdwr Cystennin I.

Roedd Constantius yn wreiddiol o Illyria. Fe'i ganwyd yn nhalaith Dardania, yn fab i Eutropius, ond ni wyddir llawer am ei ieuenctid. Yn ôl Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae, dechreuodd Constantius ei yrfa fel seneddwr ieuanc a orfododd Hispania i ildio i'r Ymerodraeth Rufeinig, ond ni ellir ystyried hyn fel hanes dibynadwy.

Yn 272 priododd a Helena a ganed Cystennin iddynt. Gwnaeth Constantius enw iddo'i hun fel milwr ac fel llywodraethwr Dalmatia dan yr ymerawdwr Carus. Dywedir fod Carus wedi ystyried penodi Constantius fel ei olynydd, yn hytrach na'i fab ei hun Carinus. Ar 1 Mawrth 293 enwyd ef fel "Cesar" (is-ymerawdwr) a mabwysiadwyd ef gan yr ymerawdwr Maximianus. Roedd wedi priodi Theodora, merch Maximianus yn 289, ar ôl ysgaru Helena. Fel Cesar, yr oedd yn gyfrifol am daleithiau Gâl a Phrydain.

Roedd Prydain a gogledd Gâl yn ymerodraeth annibynnol ers 286, pan gyhoeddodd Carausius ei hyn yn ymerawdwr. Llwyddodd Constantius i orchfygu byddin Carausius ger Bononia ac adfeddiannu gogledd Gâl. Daliodd Carausius ei afael ar Brydain, ond yn fuan wedyn llofruddiwyd ef gan ei ddirprwy Allectus. Bu Allectus yn rheoli Prydain hyd 296, pan yrrodd Constantius bennaeth Gard y Praetoriwm, Asclepiodotus, i'r ynys i'w hadfeddiannu. Gorrchfygwyd Allectus gan Asclepiodotus, a lladdwyd ef, gan adfer Prydain i'r ymerodraeth.

Yn 298 gorchfygodd yr Alemani yn nhiriogaeth y Lingones (Langres) a chryfhaodd amddiffynfeydd y ffin ar Afon Rhein. Ar 1 Mai 305 daeth yn "Augustus" (prif ymerawdwr) y gorllewin pan ymddeolodd Maximianus. Bu farw y flwyddyn wedyn yn Eboracum (Efrog) yn ystod ymgyrch yn erbyn y Pictiaid a'r Sgotiaid. Cyhoeddodd ei fyddin ei fab Cystennin yn Augustus yn ei le.

Darn arian (argenteus) yn dangos delwedd Constantius Chlorus, ac ar yr ochr arall y pedwar Tetrarch yn offrymu i ddathlu buddugoliaeth dros y Sarmatiaid
Rhagflaenydd:
Maximianus a Diocletian
Ymerawdwr Rhufain
305306
gyda Galerius
Olynydd:
Cystennin I