Colin McRae
Colin McRae | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1968 Lanark |
Bu farw | 15 Medi 2007 Lanark |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | co-driver, gyrrwr ceir cyflym, gyrrwr rali |
Tad | Jimmy McRae |
Gwobr/au | MBE, Segrave Trophy |
Chwaraeon |
Gyrrwr Albanaidd ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd oedd Colin Steele McCrae MBE (5 Awst 1968 – 15 Medi 2007), mab Jimmy McRae, enillydd Pencampwriaeth Rali Prydain pum gwaith, a brawd hyn y gyrrwr proffesiynol Alister McRae. Enillodd Bencampwriaeth Rali'r Byd yn 1995, a bu'n ail yn 1996, 1997 a 2001, a thrydydd yn 1998.
Helpodd Colin i Subaru ennill Pencampwriaeth y Gwneuthurwyr yn 1995, 1996 a 1997, a Citroën yn 2003. Cafodd MBE gan y frenhines, Elisabeth II, yn 1996.
Bu farw McRae mewn damwain pan ddisgynnodd ei hofrennydd i'r ddaear wrth lanio ar dir ei gartref yn Lanark.
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Dechreuodd ei yrfa rali yn 1986, gan yrru Talbot Sunbeam. Roedd yn aml yn cystadlu yng nghystadlaethau Pencampwriaeth Rali'r Alban, a dechreuodd greu enw iw hun am ei gyflymder a'i steil gyffrous o yrru. Cymharwyd ei steil yrru'n aml gyda Ari Vatanen, y gyrrwr rali o'r Ffindir a oedd McRae wastad wedi ei edmygu. Symudodd ymlaen yn fuan i yrru Vauxhall Nova, ac ynaa Ford Sierra XR 4x4. Ei dro cyntaf i gystadlu ym Mhencapwriaeth Ralio'r Byd oedd yn Rali Sweden 1987 tu ôl i llyw ei Nova, ac unwaith eto yn 1989, gyrrodd Sierra a gorffenodd yn y 15fed safle. Yn ddiweddarach yn 1989, gorffenodd yn y 5ed safle yn Rali Seland Newydd mewn Sierra Cosworth â gyrriad olwyn cefn. Ymunodd â dîm Prodrive Subaru yn 1991 ar gyfer Pencampwriaeth Rali Prydain. Bu'n bencampwr Prydeinig ddwywaith, yn 1991 a 1992, graddio'dd yn fuan i statws works ar gyfer y tîm ffactri.
Enillodd ei Bencampwriaeth Rali's Byd cyntaf yn 1993, yn y Subaru Legacy a adeiladwyd gan Prodrive yn Rali Seland Newydd, cyn helpu Subaru i ennill tair teitl gwneuthurwyr golynol, gan gynnwys Pencampwriaeth y gyrrwr yn 1995, a enillodd ar ôl Rali Prydain Fawr, gan i'w gyd-aelod tîm, a oedd yn bencampwr y Byd ddwywaith, Carlos Sainz yn gorffen yn ail. Yn ddiweddarach bu iddo ennill Ras y Pencampwyr yn 1998.
Yn Awst 2007, datganodd McRae ei fod yn chwilio am dîm ar gyfer cystadlu ym Mhencapwriaeth Rali'r Byd yn 2008, gan ategu os na ddigwyddai hyn y flwyddyn nesaf, ni fyddai'n dychwelyd i gystadlu gan yr oedd ond yn bosib fod allan ohoni ar lefel mor uchel am hyn a hyn. (Saesneg: "if it doesn't happen next year, then I won't (return) because you can only be out of something at that level for so long.")[1]
Buddugoliaethau ym Mhencampwriaethau Rali'r Byd[golygu | golygu cod]
# | Cystadleuaeth | Tymor | Cyd-yrwr | Car |
---|---|---|---|---|
1 | 23ydd Rali Rothmans, Seland Newydd | 1993 | Derek Ringer | Subaru Legacy RS |
2 | 24ydd Rali Rothmans, Seland Newydd | 1994 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
3 | 50fed Rali 'Network Q' | 1994 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
4 | 25ed Rali Rothmans, Seland Newydd | 1995 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
5 | 51fed Rali 'Network Q' | 1995 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
6 | 43ydd Rali Acropolis, Gwlad Groeg | 1996 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
7 | 38fed Rallye Sanremo - Rallye d'Italia | 1996 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
8 | 32ydd 'Rallye Catalunya-Costa Brava' (Rallye de España) | 1996 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
9 | 45ed Rali Safari Kenya | 1997 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
10 | 41af Tour de Corse - Rallye de France | 1997 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
11 | 39fed Rallye Sanremo - Rallye d'Italia | 1997 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
12 | 10fed Rali API Awstralia | 1997 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
13 | 53ydd Rali 'Network Q' | 1997 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
14 | 31af TAP Rallye de Portugal | 1998 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
15 | 42ain Tour de Corse - Rallye de France | 1998 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
16 | 45ed Rali Acropolis, Gwlad Groeg | 1998 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
17 | 47fed Rali Safari Kenya | 1999 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
18 | 32ain TAP Rallye de Portugal | 1999 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
19 | 36ain Rallye Catalunya-Costa Brava (Rallye de España) | 2000 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
20 | 47fed Rali Acropolis, Gwlad Groeg | 2000 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
21 | 21ain Rali Argentina | 2001 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
22 | 29fed Rali Cyprus | 2001 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
23 | 48fed Rali Rali Acropolis, Gwlad Groeg | 2001 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
24 | 49fed Rali Rali Acropolis, Gwlad Groeg | 2002 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
25 | 50fed Rali 'Inmarsat Safari', Kenya | 2002 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ http://www.autosport.com/news/report.php/id/61320 McRae aiming to return to WRC in '08 Autosport
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Gwefan Swyddogol Colin McRae
- (Saesneg) Codemasters
- (Saesneg) Colin McRae Official Sportswear Brand Archifwyd 2007-02-20 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Tudalen Ystadegau Rallybase
- (Saesneg) Tudalen Archif Ystadegau WRC
- (Saesneg) Teyrnged a Cofeb Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback.