Cofiant a phregethau y Parchedig Robert Roberts, Clynnog
Mae Cofiant a phregethau y Parchedig Robert Roberts, Clynnog, a olygwyd gan y Parch Griffith Parry yn gofiant a gyhoeddwyd gan argraffwasg G Lewis, Penygroes ym 1884.[1] Roedd Robert Roberts yn ewythr i Griffith Parry.[2]
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r gyfrol yn adrodd hanes Robert Roberts (12 Medi 1762 – 28 Tachwedd 1802) pregethwr amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ar ddiwedd y 18 ganrif.[3]
Cynnwys[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r cofiant yn trafod ei ieuenctid ym Mala Deulyn a'i dröedigaeth o dan ddylanwad David Jones Llan-gan. Cei'r hanes ei gyfnod yn gweithio fel chwarelwr, gwas ffarm ac ysgolfeistr yn ogystal â'i waith fel gweinidog Capel Ebeneser Clynnog Fawr a'i deithiau pregethu trwy Gymru, Lloegr a'r Alban. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[4]
Penodau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:
- Traethawd Arweiniol, gan y Golygydd
- Cofiant Robert Roberts, gan y Parch. Michael Roberts, Pwllheli
- Penillion, gan y Parch. John Roberts, Llangwm
- Robert Roberts, o Glynnog, gan Eben Fardd
- Sylwadau ar Robert Roberts fel Pregethwr, gan y Parch O. Thomas, D.D., Liverpool
- Robert Roberts. Clynnog, gan y Parch. Robert Jones, Llanllyfni
- Sylwadau ar Robert Roberts, Clynnog, gan y diweddar Barch. John Hughes, Liverpool
- Sylwadau ar Robert Roberts, o Drych yr Amseroedd ac o'r Gwyddoniadur
- Dywediadau ac Atgofion am Robert Roberts
- Llythyrau
Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys dros 50 o'i bregethau yn ogystal â marwnadau iddo gan Dewi Wyn o Eifion a Siôn Lleyn ac englyn beddargraff iddo gan Eben Fardd:
“ | :Yn noniau yr eneiniad, — rhagorol
|
” |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cofiant a phregethau y parchedig Robert Roberts, Clynnog, dan olygiad y G. Parry.
- ↑ "PARRY, GRIFFITH (1827-1901), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-27.
- ↑ "ROBERTS, ROBERT (1762 - 1802), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-02.
- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.