Owen Thomas (cofiannydd)

Oddi ar Wicipedia
Owen Thomas
Owen Thomas (tua 1875)
Ganwyd16 Rhagfyr 1812 Edit this on Wikidata
Caergybi Edit this on Wikidata
Bu farw1891, 2 Awst 1891 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, awdur Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Owen Thomas (tudalen wahaniaethu).

Llenor Cymraeg a phregethwr oedd Owen Thomas (16 Rhagfyr 18122 Awst 1891), a gofir yn bennaf fel cofiannydd John Jones, Talysarn. Roedd yn frawd i'r pregethwr a llenor John Thomas, awdur nofel Gymraeg gynnar.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Owen Thomas yng Nghaergybi, Ynys Môn, yn 1812. Dechreuodd ar ei yrfa yn gweithio fel saer-maen yn lleol. Yn 1834 dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ar adeg pan oedd John Elias yn dal yn ddylanwadol iawn ym Môn a gweddill gogledd Cymru. Ar ôl derbyn addysg yng Ngholeg Diwinyddol y Bala ac ym Mhrifysgol Caeredin daeth yn un o bregethwyr amlycaf ei ddydd a hynny mewn cyfnod pan oedd pregethwyr Cymraeg yn ffigyrau mawr yn y gymdeithas.[1]

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Diolch i gefnogaeth Dr Lewis Edwards o'r Bala, daeth yn gyd-olygydd Y Traethodydd a chyfrannodd sawl erthygl i'r cylchgrawn hwnnw. Fe'i cofir yn bennaf fel cofiannydd, yn enwedig am ei waith mwyaf, sef Cofiant John Jones, Talysarn a gyhoeddwyd yn 1874. Ysgrifennodd hefyd gofiant i Henry Rees.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gwaith Owen Thomas[golygu | golygu cod]

Astudiaethau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: