Codlys y gors

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Codlys y gors
Calypogeia sphagnicola
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Calypogeiaceae
Genws: Calypogeia
Rhywogaeth: C. sphagnicola
Enw deuenwol
Calypogeia sphagnicola

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Codlys y gors (enw gwyddonol: Calypogeia sphagnicola; enw Saesneg: bog pouchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Yng ngwledydd Prydain, mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng ngorlewin Cymru, gogledd ac arfordir deheuol Lloegr, ledled yr Alban ac yn Iwerddon.

Disgrifiad a chynefin[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o rywogaethau o fewn y genws Calypogei, mae'r coesynnau'n llai nag 1 mm o led.

Fel y mae ei enw Lladin yn awgrymu, mae C. sphagnicola yn tyfu bron yn gyfan gwbl ar figwyn (Sphagnum): mewn pyllau dŵr mewn corsydd ac ar dwmpathau rhwng y pyllau hyn. Yn nodweddiadol mae'n gorwedd yn wastad ar wyneb darn o figwyn.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llysiau'r afu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Codlys y gors gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.