Codlys Mueller

Oddi ar Wicipedia
Codlys Mueller
Calypogeia muelleriana
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Calypogeiaceae
Genws: Calypogeia
Rhywogaeth: C. muelleriana
Enw deuenwol
Calypogeia muelleriana

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Codlys Mueller (enw gwyddonol: Calypogeia muelleriana; enw Saesneg: Mueller's pouchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

O'r dair rhywogaeth o fewn y genws Calypogeia, dyma'r lleiaf cyffredin, er hynny, mae i'w chael drwy wledydd Prydain ac Iwerddon ar wahân i ardal i'r gogledd ac i'r gorllewin o Lundain. Mae'n llai cyffredin gan ei bod yn dewis ei chynefin yn ofalus. Mae'n edrych yn eitha tebyg i Godlys cyffredin, ond ei bod yn fwy llwytlas, ac mae ei dail yn fwy crwm, ac nid oes ganddi riciau ar y llabedi. Ceir llawer o flagur. Mae'r coesynnau fel arfer yn 1.5–3.5 mm o led, ac mae'r dail ychydig llai na 2 mm o hyd a lled.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Codlys Mueller gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.