Codlys cyffredin
Codlys cyffredin Calypogeia fissa | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Calypogeiaceae |
Genws: | Calypogeia |
Rhywogaeth: | C. fissa |
Enw deuenwol | |
Calypogeia fissa |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Codlys cyffredin (enw gwyddonol: Calypogeia fissa; enw Saesneg: common pouchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru a bron ym mhob rhan o wledydd Prydain.
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Dyma'r rhywogaeth mwyaf cyffredin o'r genws Calypogeia.
Y planhigyn eithaf amrywiol hwn yw ein Calypogeia mwyaf cyffredin, ac un o'r llysiau'r afu Prydeinig mwyaf cyffredin. Fel arfer, mae'r coesynnau yn 1.5–3.5 mm o led, wedi'i ffurfio o 2 res o ddail sy'n gorgyffwrdd ychydig. Mae'r dail yn fwy mai na'r rhywogaethau eraill o fewn y genws.[1]
Cynefin[golygu | golygu cod]
Mae'n hoff o bridd asidig e.e. llefydd mawnog, cerrig meddal neu goed pwdwr, fel arfer ar lethrau a mannau agored.
Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 14 Mai 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.