Clodock

Oddi ar Wicipedia
Clodock
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Henffordd
(Awdurdod Unedol)
Daearyddiaeth
SirSwydd Henffordd
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.9419°N 2.9822°W Edit this on Wikidata
Map

Pentref gwledig bychan yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Clodock[1] (Seisnigiad o'r enw Cymraeg Clydog). Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Longtown.

Bu Clodock yn adnabyddus wrth yr enw Cymraeg Merthyr Clydog (gweler isod), enw sy'n dyddio i'r cyfnod pan fu'r rhan hon o Swydd Henffordd yn rhan o gwmwd Cymreig Ewias. Hyd at 1852 roedd y plwyf yn Esgobaeth Tyddewi.[2] Dywedir i'r dyn olaf a siaradai'r Gymraeg yn y pentre farw ym 1883.

Gorwedd y pentref yn y bryniau ar lan Afon Mynwy yn ne-orllewin y sir yn agos i'r ffin â Chymru, tua 10 milltir i'r gogledd o'r Fenni. Fe'i lleolir ar ffordd wledig sy'n dringo o Lanfihangel Crucornau yn Sir Fynwy i bentref Longtown, Swydd Henffordd.

Mae un o siarteri Llyfr Llandaf y gellir ei ddyddio o'r 8g, yn enwi un Clydog, "brenin yn Ewias", ac yn dweud iddo gael ei lofruddio tra'n hela. Roedd merch fonheddig wedi syrthio mewn cariad â Chlydog a chafodd ei ladd gan ei chariad arall, gwrthodedig, wrth iddo hela. Cludwyd ei gorff ar gert i lan Afon Mynwy ond gwrthododd yr ychen fynd dros y rhyd a thorodd echel y cert. Claddwyd Clydog yno. Codwyd creirfa iddo ar y safle ym Merthyr Clydog (safle pentref Clodock heddiw). Tyfodd Merthyr Clydog i fod yn brif ganolfan eglwysig Ewias yn yr Oesoedd Canol.[3]

Mae'r eglwys leol, Sant Clydog (weithiau 'St Clydawg'), yn dyddio i'r 12g ac fe'i cofrestrwyd yn Radd I.

Eglwys Sant Clydog

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 9 Medi 2020
  2. "Gwefan Vision of Britain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-18. Cyrchwyd 2017-08-19.
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)