Longtown, Swydd Henffordd
Gwedd
| Math | pentref, plwyf sifil |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod Unedol) |
| Poblogaeth | 571, 620 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.9547°N 2.9872°W |
| Cod SYG | E04000816 |
| Cod OS | SO322289 |
| Cod post | HR2 |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Longtown.[1] Cafodd ei enw oherwydd ei fod yn stribyn hir o bentref.
Lleolir Longtown 10 milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Fenni a 14 milltir i'r de-orllewin o Henffordd ar gwr dwyreiniol y Mynydd Du, yn agos i'r ffin â Chymru.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 620.[2]
Bu Longtown yn rhan o arglwyddiaeth Gymreig Ewias yn yr Oesoedd Canol cynnar. Fymryn i'r gogledd o'r pentref presennol, sefydlwyd clas yn perthyn i Feuno Sant yn y 6g ar safle pentref Llanfeuno (Saesneg: Llanveynoe), hefyd yn Swydd Henffordd. Ar ôl i'r Normaniaid oresgyn Lloegr, codwyd castell mwnt a beili yno, sef Castell Longtown.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 18 Hydref 2019
- ↑ City Population; adalwyd 18 Hydref 2019
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Castle Wales: Castell Longtown
