Neidio i'r cynnwys

Clare Greenwood

Oddi ar Wicipedia
Clare Greenwood
Ganwyd17 Hydref 1958 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Seiclwr proffesiynol o Gymru o Gaerdydd ydy Clare Greenwood (ganwyd 17 Hydref 1958). Mae wedi cynyrchioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad sawl gwaith: Pursuit a Ras Ffordd 1990, Ras Bwyntiau, Pursuit a Ras Ffordd 1994 a Ras Ffordd yn 1998. Mae Clare wedi cael un o'r gyrfaoedd rhyngwladol hiraf yn seiclo, bu'n cystadlu yn Tours yr Almaen, Eidal, Sbaen, Norwy, Siapan, Unol Daleithiau, Canada, dwyrain Ewrop a sawl Tour o Ffrainc gan gynnwys y Grande Boucle Féminine rhwng 1984 a 1989 (gan orffen yn 7fed safle unwaith), a Tour de EEC rhwng 1989 ac 1994. Dros y blynyddoedd mae wedi dal pob record Treial Amser Cymraeg ac (hyd 2002 oleiaf) mae'n dal i ddal record ar gyfer 10 a 100 milltir. Yn 2001, hi oedd Pencampwr Meistr y Byd, Treial Amser a Pencampwr Meistr y Byd, Rasio Ffordd yn 2002.

Canlyniadau

[golygu | golygu cod]
1996
1af BAR (Best All Rounder) Treialon Amser Merched, Cymru. Cyfartaledd o 24.538 milltir yr awr
1997
1af BAR (Best All Rounder) Treialon Amser Merched, Cymru. Cyfartaledd o 23.965 mya
1999
1af BAR (Best All Rounder) Treialon Amser Merched, Cymru. Cyfartaledd o 24.756 mya
2000
1af BAR (Best All Rounder) Treialon Amser Merched, Cymru. Cyfartaledd o 24.376 mya
2001
1af Pencampwriaethau Meistr y Byd, Treial Amser
2002
1af Pencampwriaethau Meistr y Byd, Ras Ffordd
2007
3ydd Pencampwriaethau Meistr y Byd, Treial Amser
4ydd Pencampwriaethau Meistr y Byd, Ras Ffordd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.