Christophe de Longueil

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Christophe de Longueil
Ganwyd 1488 Edit this on Wikidata
Mechelen Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Medi 1522 Edit this on Wikidata (33 oed)
Padova Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Canon, cyfreithegwr Edit this on Wikidata

Ysgolhaig o dras Iseldiraidd a Ffrengig a dyneiddiwr yn ystod y Dadeni Dysg oedd Christophe de Longueil (tua 14881522).

Ganed ym Mechelen, Dugiaeth Brabant, yn fab i wraig leol ac esgob Ffrengig a oedd yn llysgennad o Deyrnas Ffrainc i'r Iseldiroedd Hapsbwrgaidd. Ym 1497 cafodd ei anfon gan ei dad i astudio ym Mhrifysgol Paris. Wedi marwolaeth ei dad ym 1500 gadawodd Christophe y brifysgol ac ymunodd â byddin y Brenin Louis XII. Yn ddiweddarach, ymunodd â lluoedd Philippe, Dug Bwrgwyn. Wedi marwolaeth y Dug Philippe ym 1506, astudiodd Longueil y gyfraith ym Mhrifysgol Bologna ym 1507 ac yn Poitiers o 1508 i 1510. Darlithiodd Longueil ar ddysgeidiaeth wyddonol Plinius yr Hynaf a chyfraith Rufeinig y Pandectae. Rhoddwyd iddo ganiatâd gan y Pab Leo X i dderbyn swyddi anrhydeddus a phensiwn oddi ar y Babaeth. Derbyniodd ddoethuriaeth yn y gyfraith o Brifysgol Valence ym 1514, a chyhoeddwyd ei araith dderbyn ar bwnc y gyfraith.[1]

Symudodd Longueil i Baris a fe'i penodwyd yn aelod o lys y Parlement, ac yno fe gynorthwyodd y cyhoeddwr a dyneiddiwr Nicolas Bérault wrth baratoi casgliad o sylwebaethau ysgolheigaidd ar waith Plinius. Aeth i Rufain i berffeithio ei wybodaeth o'r iaith Roeg, ac yno astudiodd yng nghwmni Janus Lascaris a Marcus Musurus. Cyfarfu â dyneiddwyr dylanwadol ac ysgolheigion o fri yn Llys y Pab a'r Academi Rufeinig, gan gynnwys Pietro Bembo. Enillodd Longueil enw yn Rhufain am ei rethreg Ciceronaidd. Dychwelodd i Ffrainc am gyfnod o ganlyniad i ffrae rhyngddo ac ambell ysgolhaig arall yn Rhufain. Aeth i Fenis ym 1519 ac i Padova ym 1520, ac yno bu'n byw am gyfnod gyda Bembo. Wedi marwolaeth y Pab Leo X, enillodd Longueil nawdd y Sais Reginald Pole, cefnder i'r Brenin Harri VIII. Pan oedd yn westai yn nhŷ Pole yn Padova, aeth Longueil yn sâl ac yno bu farw.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 242–3.