Chris Law
| Chris Law | |
| |
| Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
| Rhagflaenydd | Jim McGovern (Llafur) |
|---|---|
| Geni | 21 Hydref 1969 Yr Alban |
| Cenedligrwydd | Albanwr |
| Etholaeth | Gorllewin Dundee |
| Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
| Galwedigaeth | Gwleidydd |
| Gwefan | http://www.snp.org/ |
Gŵr busnes a gwleidydd o'r Alban yw Chris Law neu Christopher Murray Alexander Law (ganwyd 21 Hydref 1969); fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Orllewin Dundee, yr Alban. Mae Chris yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Cyn 2015 roedd y sedd wedi'i dal gan y Blaid Lafur am gyfnod o 65 mlynedd.[1]
Hyfforddwyd Law fel cogydd mewn tŷ bwyta Ffrengig cyn iddo raddio yn y brifysgol, ac yna am 10 mlynedd bu'n rhedeg cwmni motobiecio yn yr Himalaya a deg mlynedd wedyn fel Ymgynghorydd Ariannol.
Refferndwm Annibyniaeth yr Alban, 2015
[golygu | golygu cod]Yn ystod yr ymgyrch, teithiodd o gwmpas yr Alban mewn hen frigad dân o'r enw 'Ysbryd Annibyniaeth', gan annog pobl i bleidleisio dros annibyniaeth i'w wlad; cafodd gryn sylw ac mae'n gymeriad lliwgar.[2]
Etholiad 2015
[golygu | golygu cod]Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Chris Law 27684 o bleidleisiau, sef 61.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 33.0 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 17092 pleidlais.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Liddle, Andrew (8 Mai 2015). "General Election 2015: SNP's Chris Law 'puts Labour into retirement' with victory in Dundee West". The Courier. Cyrchwyd 9 Mai 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|work=(help) - ↑ www.snp.org; adalwyd 5 Gorffennaf 2015
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban