Chinua Achebe

Oddi ar Wicipedia
Chinua Achebe
GanwydAlbert Chinụalụmọgụ Achebe Edit this on Wikidata
16 Tachwedd 1930 Edit this on Wikidata
Ogidi Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 2013 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethColonial Nigeria, Nigeria Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, bardd, beirniad llenyddol, awdur ysgrifau, awdur storiau byrion, awdur plant, ysgrifennwr, athronydd, academydd, academydd, awdur Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThings Fall Apart, No Longer at Ease, Arrow of God, A Man of the People, Anthills of the Savannah Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadOkey Ndibe Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPeople's Redemption Party Edit this on Wikidata
PriodChristie Chinwe Okoli-Achebe Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Ryngwladol Man Booker, Nigerian National Order of Merit Award, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Gwobr Ryngwladol Nonino, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Lotus Prize for Literature, Commonwealth Poetry Prize Edit this on Wikidata

Llenor Nigeriaidd oedd Roedd Albert Chinụalụmọgụ Achebe (16 Tachwedd 1930 - 21 Mawrth 2013).[1] Ei gampwaith oedd ei nofel gyntaf, Things Fall Apart (1958). Ymhlith ei weithiau eraill mae cofiant o Ryfel Biafra, There Was a Country (2012).[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd Achebe o dras penaethiaid Ibo. Enillodd Wobr Nobel am Lenyddiaeth ym 1989 a Gwobr Man Booker Rhyngwladol yn 2007. Ganwyd yn Ogidi, gorllewin Nigeria, yn fab i athro cenhadol, addysgwyd Achebe yng Ngholeg Prifysgol Ibadan. Ym 1954 ymunodd â Chorfforaeth Ddarlledu Nigeria ac ym 1961 daeth yn gyfarwyddwr darlledu allanol. Yn ystod y cyfnod hwn ysgrifennodd y pedair nofel a enillodd clod rhyngwladol iddo: Things Fall Apart (1958), No Longer At Ease (1960), Arrow of God (1964), A Man of the People (1966). Mae'r pedair yn canolbwyntio ar gyfyngiadau moesol, gwleidyddol ac ymarferol pobl Affricanaidd sy'n cael eu dal yn y gwrthdaro rhwng gwerthoedd gorllewinol a ffyrdd o fyw traddodiadol. Roedd yn ysgrifennu yn y Saesneg ond mae ei waith wedi ei gyfieithu i lawer o ieithoedd eraill. Ymadawodd a’r byd darlledu i ddysgu ym Mhrifysgol Nigeria, Nsukka (1967-72), cyn gwario cyfnod yn yr Unol Daleithiau cyn dychwelyd i Nsukka fel athro Saesneg. Cyhoeddodd lyfr o gerddi, Beware Soul Brother, ym 1972 ac enillodd Wobr Barddoniaeth y Gymanwlad yr un flwyddyn. Mae hefyd wedi cyhoeddi straeon byrion ar themâu traddodiadol Affricanaidd. Ym 1979 dyfarnwyd Gorchymyn y Weriniaeth Ffederal iddo. Cyhoeddwyd nofel arall, Anthills of the Savannah, ym 1987.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Nofelau[golygu | golygu cod]

Straeon byrion[golygu | golygu cod]

  • Marriage Is A Private Affair (1952)
  • Dead Men's Path (1953)
  • The Sacrificial Egg and Other Stories (1953)
  • Civil Peace (1971)
  • Girls at War and Other Stories (1973)
  • African Short Stories (editor, with C. L. Innes) (1985)
  • The Heinemann Book of Contemporary African Short Stories (golygydd, gyda C. L. Innes) (1992)
  • The Voter

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

  • Beware, Soul-Brother, and Other Poems (1971) (yn yr UD Christmas at Biafra, and Other Poems, 1973)
  • Don't Let Him Die: An Anthology of Memorial Poems for Christopher Okigbo (golygydd, gyda Dubem Okafor) (1978)
  • Another Africa (1998)
  • Collected Poems (2005)
  • Refugee Mother And Child
  • Vultures

Traethodau, beirniadaeth, ffeithiol a sylwebaeth wleidyddol[golygu | golygu cod]

  • The Novelist as Teacher (1965) – hefyd yn Hopes and Impediments
  • An Image of Africa|An Image of Africa: Racism in Conrad's "Heart of Darkness" (1975) – hefyd yn Hopes and Impediments
  • Morning Yet on Creation Day (1975)
  • The Trouble With Nigeria (1984)
  • Hopes and Impediments (1988)
  • Home and Exile (2000)
  • The Education of a British-Protected Child (6 October 2009)
  • There Was A Country: A Personal History of Biafra (11 October 2012)

Llyfrau Plant[golygu | golygu cod]

  • Chike and the River (1966)
  • How the Leopard Got His Claws (with John Iroaganachi) (1972)
  • The Flute (1975)
  • The Drum (1978)


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Innes, Lyn (22 Mawrth 2013). Chinua Achebe obituary. The Guardian. Adalwyd ar 22 Mawrth 2013.
  2. (Saesneg) Chinua Achebe publishes Biafran memoir. BBC (27 Medi 2012). Adalwyd ar 27 Ionawr 2013.


Baner NigeriaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Nigeriad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.