Cherry Pickles

Oddi ar Wicipedia
Cherry Pickles
Ganwyd1950 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharlunydd, darlithydd Edit this on Wikidata

Artist a darlithydd o Ben-y-bont ar Ogwr yn Ne Cymru yw Cherry Pickles (ganwyd 1950) [1]. Mae ei gweithiau wedi cael eu harddangos yn eang yn y Deyrnas Unedig yn ogystal ag yng Ngwlad Groeg a'r Unol Daleithiau. Mae hi hefyd wedi darlithio mewn nifer o ysgolion celf.

Yn 2002 cafodd ei char eu dwyn yng Nghaerdydd ynghyd ag 20 o'i gweithiau celf eu dwyn. Roedd hi'n mynd â'r paentiadau i Athen ar gyfer arddangosfa.[2]

Addysg[golygu | golygu cod]

Enillodd Pickles radd mewn Mathemateg yn gyntaf o Brifysgol Ulster cyn mynd ymlaen i astudio ar gyfer Diploma Ôl-raddedig yn Ysgol Celf Gain Slade, a BA mewn Peintio yn Ysgol Gelf Chelsea.[3][4]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Mae Pickles wedi cael gyrfa fel artist annibynnol, yn arddangos yn eang ac yn sicrhau nifer o grantiau er mwyn teithio, arddangos a chyhoeddi ei gwaith. Yn 2017 roedd hi ar y restr fer ar gyfer Gwobr Lynn Painter-Stainers.[5] Mae hi'n paentio'n bennaf ond hefyd yn gwneud delweddau gyda gludluniau, arlunio a chamera. Mae rhai o'i gweithiau nodiedig, fel ei hunanbortread fel Dylan Thomas, yn bortreadau er ei bod hefyd wedi paentio llawer o dirluniau. Mae hi wedi paentio nifer o dirluniau o ardal Sir Benfro, lle mae hi'n byw.

Mae hi hefyd wedi cael gyrfa hir fel darlithydd ac academydd, gan ddysgu mewn nifer o ysgolion celf gan gynnwys Ysgol Gelf Falmouth, Prifysgol St Andrews, Ysgol Gelf Caerdydd ac Ysgol Arlunio Frenhinol Llundain.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Pickles, Cherry, b.1950 | Art UK". Art UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-08-13.
  2. "Car thieves steal art exhibits" (yn Saesneg). 2002-05-28. Cyrchwyd 2019-08-13.
  3. "Cherry Pickles Biography – Cherry Pickles on artnet". Artnet. Cyrchwyd 2019-08-13.
  4. "Cherry Pickles". Saatchi Art (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-08-13.
  5. "Artist in the running for £15,000 prize". Western Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-08-13.
  6. "Cherry Pickles - Artists Talk". Heatherley School of Fine Art (yn Saesneg). 2018-09-25. Cyrchwyd 2019-08-13.