Chefchaouen
| Math | dinas, cymuned drefol Moroco |
|---|---|
| Poblogaeth | 46,168 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | CET |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 15.4 km² |
| Uwch y môr | 564 metr |
| Cyfesurynnau | 35.168775°N 5.268345°W |
| Cod post | 91000 |
![]() | |
Dinas ym Moroco yw Chefchaouen (Berbereg: Accawn, Arabeg: الشاون, Sbaeneg: Chauen). Cyfeirir ati ar lafar fel Chaouen hefyd. Fe'i lleolir ym mynyddoedd y Rif yng ngogledd-orllewin Moroco, i'r de o Tanger a heb fod nepell o ddinas Tétouan. Poblogaeth: 35,709 (2004).
Sefydlwyd Chefchaouen yn 1471, pan godwyd ei chastell gan Morisgiaid alltud o Sbaen - yn Arabiaid ac Iddewon - dan arweinyddieth Moulay Ali Ben Moussa Ben Rached El Alami, ac fe'i defnyddiwyd i wrthsefyll goresgyniad gogledd Moroco gan y Portiwgaliaid.
Yn 1920, cipwyd Chefchaouen gan Sbaen a daeth yn rhan o'r Moroco Sbaenaidd. Rhoddodd Sbaen y ddinas yn ôl i Foroco yn 1956 pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth.
Mae'r dref yn adnabyddus am ei farchnad hashish, ffurf wedi'i brosesu o'r kif (canabis) a dyfir ar raddau eang ym mynyddoedd y Rif.
